Enw a Rôl
Nanw Maelor, Llywydd UMCA a Swyddog Diwylliant Cymreig.
Cyflwyniad byr…
Fy enw i ydy Nanw ac yn wreiddiol, dwi’n dod o’r Wyddgrug. Dwi newydd orffen astudio’r Gymraeg yn Aberystwyth ac yn edrych ymlaen at flwyddyn brysur fel Llywydd UMCA!
Rhowch ffaith ddiddorol neu randwm amdanoch chi’ch hun i ni...
Dwi wedi cyhoeddi cerdd mewn cyfrol.
Dewiswch dri gair sy’n eich disgrifio orau.
Cymraes, gweithgar, angerddol.
Eich pryd olaf ar y ddaear... Beth sydd ar y fwydlen? A pha 3 o enwogion fyddai’n cael eu gwahodd?
Lasagna efo chips a garlic bread efo Phoebe Waller-Bridge, Lewis Capaldi a Mererid Hopwood.
Pa ddiddordeb sydd gennych chi?
Dwi’n joio mynd allan efo ffrindiau, gwario amser efo teulu, sgwennu a theithio.
Pam wnaethoch chi ddewis sefyll dros y rôl hon?
UMCA sydd wedi galluogi imi gael tair blynedd anhygoel yn Aber a hynny’n gwbl drwy’r Gymraeg – mae’n bwysig imi ein bod yn gwarchod yr hawl yma.
At ba bethau ydych chi’n edrych ymlaen fwyaf eleni?
Y sdeddfod rhyng-gol – hoff ddigwyddiad y calendr i mi.
Pa achosion sydd o bwys i chi?
- Sicrhau dyfodol diogel a llewyrchus i UMCA.
- Gwarchod yr hawl i addysg uwch cyfrwng Cymraeg yma’n Aber drwy ymgyrchu dros ddarpariaeth eang o fodiwlau Cymraeg.
- Rhannu diwylliant Cymreig a’r gwaith arbennig y mae UMCA yn ei wneud gyda chymuned ehangach Undeb Aber.
Pa le yw eich hoff le i ymlacio yn Aberystwyth?
Y Pier efo chippy a peint dan machlud Aber.
Oes gennych chi unrhyw draddodiadau neu ofergoelion rhyfedd?:
Dwi byth yn gadael rhif y volume ar rif od.
Beth yw eich barn amhoblogaidd chi?
Wrth fy modd efo pinafal ar bitsa!
A oes yna un peth y dylai pawb ei wneud/cael profiad ohono o leiaf unwaith mewn bywyd?
Mynd i gem bêl-droed Cymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Dych chi ar eich ffordd i’r gwaith ar fore Llun... pa gân fydd yn y cefndir?
Prydwen - Bwncath
Rhowch enghraifft o’ch hoff le i ymweld â fe a pham?
Efrog Newydd adeg Dolig efo fy nheulu – oedd o’n arbennig.