Wythnos Myfyrwyr yn Gwirfoddoli – Rhoi goleuni ar wirfoddolwyr UM Aber

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

#SVW2018 #GwirfoddoliAber

Cymdeithas: Tickled Pink

Pam ydyn ni'n gwirfoddoli: Mwynhau gyda ffrindiau wrth wneud rhywbeth da ar yr un pryd!

Yr hyn rydyn ni'n ei wneud: Trefnu digwyddiadau codi arian misol a chymryd rhan ynddynt, fel gwerthu cacennau, paentio glityr ar wynebau, ras am fywyd a digwyddiadau yn Yokos, fel ein parti glityr! Ein nod ym mhopeth a wnawn yw codi arian at yr elusen CoppaFeel! a chodi ymwybyddiaeth pobl ifanc o ganser y fron.

Cyfanswm a godwyd eleni: Ein targed eleni yw £7000 ac rydyn ni wedi codi £4500 hyd yma!

Digwyddiadau sydd ar y gweill: Gwerthiant cacennau yn Undeb y Myfyrwyr ar 22 Chwefror; yn 'Yokos Highjack' ar 28 Chwefror a ‘Rave Am Fywyd’ UV yn Harley's ar 16 Mawrth!

Pwyllgor presennol: Bethan Rhian Lord, Tasha Lewis, Eirene Georgakakou, Ceri Fleig, Chantelle Patton-Hallet, Izzy Hammond, Steph Tooth

Da iawn ferched, mae eich creadigrwydd a'ch brwdfrydedd wrth godi arian a chodi ymwybyddiaeth yn wych! Daliwch ati â'r gwaith da!

Comments