Sylw ar Alex Leeds

Dwi wedi clywed amryw o bobl sy’n ymwneud â thimau chwaraeon yn Aber yn dweud bod hynny wedi cyfoethogi eu profiad o fod yn y brifysgol. Mae hynny’n sicr yn wir yn fy achos i, dwi wedi gwneud ffrindiau am oes, a dwi wedi ennill cryn lawer o hyder yn sgil hynny. Dwi hefyd wedi cael y cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau a digwyddiadau na fuaswn i wedi cael y cyfle pe bawn i ddim yn rhan o’r tîm.

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Yn gyntaf, allwch roi ychydig o wybodaeth amdanoch eich hun? Pa radd ydych chi’n ei hastudio? Pa flwyddyn astudio ydych chi ynddi? A ffaith difyr amdanoch eich hun (gwnewch yn sicr ei fod yn briodol)?

Dwi’n dod o Hong Kong, ac fe ddes i’r dref anhygoel hon yng Nghymru ar gyfer y Brifysgol; dwi yn fy nhrydedd flwyddyn yn  astdio swoleg. Y ffaith difyr amdanaf i yw fy mod i wedi dringo Mynydd Kinabalu (y mynydd uchaf yn Ne Ddwyrain Asia) 

Pa gampau ydych chi’n cymryd rhan ynddyn nhw, a sut daethoch chi i gyfranogi yn y lle cyntaf?

Rygbi; dechreuais chwarae 7-bob-ochr yn yr ysgol pan oeddwn i’n 10 oed, oherwydd mai dad oedd yr hyfforddwr, ac roedd wedi awgrymu fy mod i a fy chwaer yn ymuno, dyna lle dechreuodd y diddordeb. Dechreuais chwarae i dîm 15 pan oeddwn i’n 15 oed, yn ogystal â thimau dan 16 a dan 19 yn Hong Kong.

Beth yw manteision ymwneud â thimau chwaraeon yn Aberystwyth?

Dwi wedi clywed amryw o bobl sy’n ymwneud â thimau chwaraeon yn Aber yn dweud bod hynny wedi cyfoethogi eu profiad o fod yn y brifysgol. Mae hynny’n sicr yn wir yn fy achos i, dwi wedi gwneud ffrindiau am oes, a dwi wedi ennill cryn lawer o hyder yn sgil hynny. Dwi hefyd wedi cael y cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau a digwyddiadau na fuaswn i wedi cael y cyfle pe bawn i ddim yn rhan o’r tîm.

Ydy bod yn rhan o dîm chwaraeon wedi rhoi cyfle i chi gyflawni unrhyw beth neu ennill unrhyw gymwysterau? Os felly, pa gyraeddiadau / cymwysterau?

Do. Rydyn ni’n cael cymorthdal i gwblhau cyrsiau ar gyfer hyfforddwyr, ac mae ein swyddog Hyb Rygbi wedi trefnu bod dau o’r rhain yn cael eu cynnal yn Aber. Dwi nawr yn hyfforddwr cymwysedig ar gyfer rygbi cyffwrdd, a dwi wrthi’n cwblhau fy nghwrs lefel un. 

Beth fyddech chi’n ei ddweud wrth fyfyrwyr Aber  sydd am ymuno â chlwb chwaraeon?

EWCH AMDANI (ac ymunwch â’r clwb rygbi 😉 ) – Os ydych chi’n gofidio nad ydych chi erioed wedi cymryd rhan yn y gamp o’r blaen, neu eich bod chi ddim yn ddigon da, does dim ots. Mae chwaraeon yn Aber mor gynhwysol, a dwi’n gwybod o fod yn rhan o’r clwb rygbi, ein bod ni’n treuio cryn lawer o amser yn hyfforddi pobl i fyny i’r safon yn barod ar gyfer dechrau’r tymor;  dwi’n sicr bod yr un peth yn wir am glybiau eraill. Rhowch gynnig ar bob math o bethau gwahanol, mae cymaint o gampau i ddewis o’u plith; buasai’n drueni peidio gwneud hynny a methu allan!

Faint o amser ydych chi’n ei dreulio bob wythnos yn ymarfer?

Mae Rygbi Menywod Aber yn ymarfer 2-3 gwaith yr wythnos, gan ddibynnu os oes gêm neu beidio; dwi hefyd yn mynd i’r gampfa 2-3 gwaith yr wythnos.

Sut ydych chi wedi llwyddo gwneud hyn yn ogystal â’ch astudiaethau?

Dwi erioed wedi cael problem gyda chydbwyso gwaith y Brifysgol a rygbi, er y bu rhaid i mi roi’r gorau i gampau eraill ar ôl y flwyddyn gyntaf, a dewis un i gystadlu ynddi.

Pa brosesau fu rhaid i chi fynd drwyddyn nhw i gael eich dethol ar gyfer y sgwad cenedlaethol?

Teithiodd Sioned Llywelyn, oedd hefyd ar y rhestr fer, a fi i Gaerdydd am 6:30am ar gyfer y treialon, gyda 2 aelod o dîm cenedlaethol Cymru yn ddewiswyr. Roedd y rhan fwyaf o’r merched oedd yno o Brifysgol Met Caerdydd, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe, amryw ohonynt eisoes yn perthyn i sgwad cenedlaethol neu dimau’r Uwch Gynghrair, gan  gynnwys Lloegr dan 20 a’r Scarlets. Ymysg y rhain oedd Jasmine Joyce, oedd yn rhan o dîm 7-bob-ochr GB a aeth i Rio. Roedd hyn yn gryn her, ond doedd dim byd amdani ond chwarae ein gorau a meddwl am fynd i McDonalds am ginio wedyn. Er syndod i ni, aeth y ddwy ohonom drwodd i’r 2 sesiwn hyfforddi nesaf, cyn y dewisiadau terfynol, oedd ddim ond 2 ddiwrnod cyn y gystadleuaeth.

Beth yw eich dyheadau at y dyfodol, pan fyddwch chi’n cwblhau eich gradd?

Yn y tymor byr, byddaf yn ceisio arbed arian er mwyn mynd i deithio, ac yn pen draw gwneud cwrs meistr mewn cadwraeth, gan fy mod i’n awyddus i ddilyn gyrfa sy’n ymwneud â fy nghwrs yn y brifysgol. Os nad yw hynny’n digwydd, mae gen i wastad rygbi.   

Comments