Bu tîm saethyddiaeth Aber yn cystadlu yn rowndiau cymhwyso Pencampwriaethau Cenedlaethol BUCS yr wythnos ddiwethaf.
Bu tîm saethyddiaeth Aber yn cystadlu yn rowndiau cymhwyso Pencampwriaethau Cenedlaethol BUCS yr wythnos ddiwethaf. Llwyddodd 5 o fyfyrwyr Aberystwyth i fynd drwodd i’r rownd nesaf. Cafodd Christopher Cassell lwyddiant mawr, gan osod record newydd ar gyfer y DU! Mae wedi bod yn dymor eithriadol i’r Saethwyr hyd yma, gan osod 2 record y DU, ynghyd â 5 record Cymru, a 6 record sirol. Pob lwc iddyn nhw yn y rowndiau terfynol ar 18 Mawrth!