Proffil wythnos 'this girl can' gan Amy Corbett

I ddechrau, cefais fy annog drwy'r amser i gymryd rhan gan fy rhieni o oedran ifanc, fel bod gen i hobi a rhywbeth i'w wneud yn ystod yr haf pan oeddwn i'r tu hwnt i'r ysgol.

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Pam wyt ti'n cymryd rhan mewn chwaraeon?

I ddechrau, cefais fy annog drwy'r amser i gymryd rhan gan fy rhieni o oedran ifanc, fel bod gen i hobi a rhywbeth i'w wneud yn ystod yr haf pan oeddwn i'r tu hwnt i'r ysgol. Felly roedd chwaraeon wastad yn rhan fawr o fy mywyd. Serch hynny, dwi wedi penderfynu parhau â chwaraeon am eu bod yn ffordd wych o leddfu straen aseiniadau, gorchwylion a holl straeniau bywyd beunyddiol yn y brifysgol. I mi, mae chwaraeon wastad wedi bod yn rhywbeth dwi'n ei fwynhau'n fawr. Mae'n rhan o fy mywyd sy'n wahanol i bopeth arall dwi'n gallu ei wneud gyda fy ffrindiau i gadw'n heini.

Pa gampau wyt ti'n eu chwarae?

Tenis a lacrós.

A thithau'n ferch, pa heriau wyt ti wedi eu hwynebu mewn chwaraeon?

Daeth yr unig heriau o ran rhywedd dwi wedi'u hwynebu'n bersonol, wrth gymryd rhan mewn chwaraeon, yn yr ysgol yn bennaf. Roeddwn i a chwpl o ffrindiau wastad am chwarae pêl-droed ond fyddai'r bechgyn ddim yn gadael i ni ymuno am ein bod ni'n ferched a doedden ni ddim yn gwybod sut i chwarae pêl-droed mae'n debyg. Yn yr ysgol gyfun, serch hynny, roeddwn ni'n ddigon ffodus i fod â thîm pêl-droed y menywod, ond doedd ein hathrawon ddim yn ein hannog ni lawer i gymryd rhan. Roedd hi'n fwy cyffredin i ferched chwarae pêl-rwyd a hoci. Yn anffodus, mae stigma'n bodoli o hyd yn erbyn menywod mewn chwaraeon. Yn enwedig yn ystod y Gemau Olympaidd, cafwyd sylwadau ar olwg y menywod oedd yn cystadlu a gyda phwy oedden nhw mewn perthynas. Fyddwch chi byth yn clywed sylwadau fel hynny am ddynion sy'n cystadlu.

Beth wyt ti wedi ei gyflawni mewn chwaraeon? Unrhyw gymwysterau?

Pan oeddwn i'n ifancach, cystadlais i mewn cystadleuaeth tenis sirol a des i'n ail. Hwnnw oedd mwy na thebyg fy nghyrhaeddiad mwyaf mewn chwaraeon! Dwi ddim yn union yn athletwr o fri ond dwi'n cymryd rhan mewn chwaraeon i fwynhau ac i gymdeithasu. Enillais i fy ngwobr arweinwyr chwaraeon pan oeddwn i yn yr ysgol gyfun ac mae gen i brofiad o hyfforddi tennis, yn sgil helpu fy nghlwb lleol o oedran ifanc. Hefyd yn ddiweddar dwi wedi ennill fy nghymhwyster dyfarnu lacrós y menywod Lefel 1.

Beth sydd gen ti i’w ddweud wrth ferched yn Aber sydd am gymryd rhan ond yn rhy ofn!?

Peidiwch â bod ofn! Os hoffech chi roi cynnig ar gamp ond rydych chi'n rhy ofn mynd i'r sesiwn ymarfer ar eich pen eich hun, yna gofynnwch i gydletywr neu ffrind fynd gyda chi i'r sesiwn gyntaf. Fyddwch chi ddim yn ei ddifaru! Mae bod yn rhan o glwb mor werthfawr, nid dim ond yn y brifysgol, ond mewn bywyd yn gyffredinol.

Comments