Yn olaf yr wythnos hon, byddwn ni'n edrych yn fanwl ar y rolau sy'n canolbwyntio ar grwpiau penodol o fyfyrwyr
Yn olaf yr wythnos hon, byddwn ni'n edrych yn fanwl ar y rolau sy'n canolbwyntio ar grwpiau penodol o fyfyrwyr, gan gynnwys:
- Swyddog LHDTQ+
- Swyddog y Menywod
- Swyddog y Myfyrwyr Anabl
- Swyddog y Myfyrwyr Croenddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig
- Swyddog y Myfyrwyr Rhyngwladol
- Swyddog Myfyrwyr Hyn
- Swyddog Myfyrwyr Ôl-raddedig
- Swyddog Campws Llanbadarn
- Swyddog Campws Mawrisiws
Mae sicrhau bod pob myfyriwr yn cael ei gynrychioli gan UMAber yn hollbwysig i ni. Felly dyna pham mai'r rolau sy'n cynrychioli grwpiau penodol ac, yn hollbwysig, grwpiau rhyddhad yw rhai o'r rolau pwysicaf yn yr etholiadau.
Mae'r cynrychiolwyr hyn yn gweithio gydol y flwyddyn i sicrhau bod y campysau'n gynhwysol a bod y llais a gaiff ei dangynrychioli'n draddodiadol ei glywed.
Bydd sefyll am y rolau hyn yn golygu y byddwch chi'n cynrychioli grwp penodol o fyfyrwyr. Gan gynnal ymgyrchoedd, cynnig cymorth i fyfyrwyr a gweithredu fel ffynhonnell wybodaeth, byddwch yn gweithio gyda'r swyddogion eraill i sicrhau bod anghenion grwpiau penodol o fyfyrwyr yn cael eu diwallu, yn ogystal ag amddiffyn ac ymestyn cydraddoldeb ar gyfer pob myfyriwr sy'n hunan-ddiffinio neu'n uniaethu ag un o'r rolau.
Os ydych chi am sefyll am unrhyw un o'r rolau uchod, ewch i www.umaber.co.uk/etholiadau neu e-bostiwch undeb.etholiadau@aber.ac.uk.