Goleuni ar – Cynrychiolwyr Athrofa

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydyn ni wedi rhannu rhai o'r rhesymau y dylech chi sefyll a phrofiadau'r rheiny sydd wedi sefyll. Wrth i ni ddynesu at ddiwedd y cyfnod enwebu ar 28 Chwefror, byddwn ni'n edrych yn fanwl ar y rolau sydd ar gael a'r hyn mae'r rolau'n ei gynnwys.

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydyn ni wedi rhannu rhai o'r rhesymau y dylech chi sefyll a phrofiadau'r rheiny sydd wedi sefyll. Wrth i ni ddynesu at ddiwedd y cyfnod enwebu ar 28 Chwefror, byddwn ni'n edrych yn fanwl ar y rolau sydd ar gael a'r hyn mae'r rolau'n ei gynnwys.

Yn gyntaf, byddwn ni'n edrych ar y Cynrychiolwyr Athrofeydd, sef y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer adborth a chreu datrysiadau ar y cyd ar lefel Athrofa. Byddwch yn gweithio gyda'r Swyddog Materion Academaidd i gynrychioli myfyrwyr i'r Brifysgol drwy eistedd gyda nhw ar wahanol bwyllgorau a mynychu'r Parth Academaidd. Byddwch yn cwrdd yn rheolaidd â Chynrychiolwyr Academaidd a Chyfarwyddwr eich Athrofa er mwyn darparu adborth ac ymateb iddo.

Os ydych chi am sefyll i fod yn Gynrychiolydd Athrofa, ewch i www.umaber.co.uk/etholiadau neu e-bostiwch undeb.etholiadau@aber.ac.uk.

 

Comments