Yr wythnos ddiwethaf, aeth Lauren Marks (Llywydd yr Undeb), Naomi Cutler (Swyddog Lles yr Undeb) ac Oli Morton (Cynrychiolydd Academaidd) i Brighton i gynrychioli miloedd o fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yng Nghynhadledd Genedlaethol UCM.
Yr wythnos ddiwethaf, aeth Lauren Marks (Llywydd yr Undeb), Naomi Cutler (Swyddog Lles yr Undeb) ac Oli Morton (Cynrychiolydd Academaidd) i Brighton i gynrychioli miloedd o fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yng Nghynhadledd Genedlaethol UCM.
Mae'r digwyddiad blynyddol hwn, sef y casgliad democrataidd mwyaf o fyfyrwyr yn y byd, yn pasio polisïau ac yn ethol cynrychiolwyr myfyrwyr cenedlaethol at y flwyddyn sydd i ddod.
Dyma grynodeb o'r uchafbwyntiau…
- Etholwyd arweinwyr newydd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr gan y cynrychiolwyr a bydd y rhain yn dechrau yn eu rôl ar 1 Gorffennaf 2017.
- Pasiwyd y Bil AU drwy Senedd y DU gan felly nodi diwedd dwy flynedd o waith gan fudiad y myfyrwyr a sicrhau consesiynau allweddol.
- Iechyd meddwl oedd y canolbwynt a phasiwyd polisïau i ystyried y cysylltiad rhwng caledi ariannol, dyled ac iechyd meddwl yn ogystal â herio prifysgolion i werthuso effaith eu polisïau a'u rheolau ar fyfyrwyr sydd â phroblemau iechyd meddwl.
- Yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB), pasiwyd newidiadau yn ein llywodraethiant corfforaethol, yn ein llywodraethiant ac yng nghyfraniad ein haelodaeth.
Dyma'r hyn a ddwedodd Lauren Marks am gynrychioli myfyrwyr Aberystwyth ar lefel genedlaethol:
Bu eleni'n flwyddyn galonogol i UCM a dwi'n hynod falch o gael fy newis i gynrychioli myfyrwyr Aberystwyth yn y gynhadledd eleni a bod yn rhan o newid sylweddol. Pleidleisiodd eich cynrychiolwyr ar bolisïau cenedlaethol pwysig ac ar adolygiad UCM o ddemocratiaeth, gan sicrhau bod dyfodol UCM a'i flaenoriaethau'n addas i holl fyfyrwyr Aber ac yn dwyn budd iddynt. Bu'n wythnos hir a dwys o ddadlau a thrafod, ond ar y cyfan, bu'r wythnos yn fuddugoliaeth i fyfyrwyr ledled y wlad. Hefyd, bu'n braf gweld unigolion hynod weithgar yn cael eu hethol yn swyddogion cenedlaethol. Bydd y rhain yn gweithio gyda thîm swyddogion UMAber y flwyddyn nesaf, yn genedlaethol ac yn lleol, a dwi'n credu mai nhw yw'r bobl gywir i sicrhau bod UCM yn berthnasol i fyfyrwyr Aber. Diolch i bawb a bleidleisiodd dros gynrychiolwyr eleni! Mae croeso i chi gysylltu â mi i ofyn sut cyfranogais i yn y cynigion polisi neu i ofyn unrhyw gwestiwn sydd gennych chi ynglyn â'r Gynhadledd Genedlaethol.
Cewch weld yr holl uchafbwyntiau ar:
www.nusconnect.org.uk/articles/national-conference-2017-the-highlights
Cafodd y costau teithio i'r gynhadledd ac yn ôl ohoni eu cyllido gan rodd hael Cronfa Aber.