Yn olaf yr wythnos hon yw Rhys Dart a gafodd ei ethol yn Swyddog Ymgyrchoedd, Cyfathrebu a Chyfleoedd Cyfartal yn 2001-02 ac yn Llywydd yn 2002-03. Ar hyn o bryd, Rhys yw Prif Weithredwr Undeb Myfyrwyr y Drindod Dewi Sant.
Yn olaf yr wythnos hon yw Rhys Dart a gafodd ei ethol yn Swyddog Ymgyrchoedd, Cyfathrebu a Chyfleoedd Cyfartal yn 2001-02 ac yn Llywydd yn 2002-03. Ar hyn o bryd, Rhys yw Prif Weithredwr Undeb Myfyrwyr y Drindod Dewi Sant.
Pam dewisoch chi'r rolau hynny?
Dechreuais i gyfranogi yn Undeb y Myfyrwyr drwy Bay Radio a thrwy eistedd ar y Pwyllgor Gwaith fel Rheolwr yr Orsaf. Roeddwn i'n meddwl y byddai modd i mi gyfrannu at yr Undeb, ei wella, ei wneud yn fwy hygyrch ac agor ei benderfyniadau i gorff y myfyrwyr. Sefais am rôl y Llywydd flwyddyn yn ddiweddarach am fy mod i'n teimlo roedd angen parhad ar Undeb y Myfyrwyr o ran arweinyddiaeth yn sgil rhai o'r heriau (cyllid, llywodraethiant, dylanwad).
Beth yw eich hoff atgof o sefyll yr etholiadau?
Mynd allan a siarad â phobl ynglyn â'u profiadau a chael gwybod cymaint roedd Aber yn bwysig i bobl.
Beth yw eich hoff atgof fel Swyddogion Llawn-amser?
Y digwyddiadau mawr, Superteams, Rygbi 7 Bob Ochr a'r Ddawns Fai – gweld egni'r myfyrwyr wrth iddyn nhw ddod ynghyd a mwynhau.
Beth ydych chi wedi’i ddysgu gan sefyll etholiad a bod yn Swyddog Llawn Amser?
Dysgais i lawer. Heb i mi fod yn Swyddogion Llawn-amser, fuaswn i ddim wedi cael unrhyw un o fy swyddi yn ystod y 13 mlynedd ddiwethaf! Dysgais i werthfawrogi barn a phrofiadau pobl eraill, cydbwyso buddiannau cyferbyniol, a gwelais i bwer trawsffurfiol addysg a'i heffaith ar unigolion, teuluoedd a chymunedau.
Pa gyngor sydd gennych chi i unrhyw un sy’n ystyried sefyll yr etholiadau?
Ewch ati, ond byddwch yn ymroddgar! Siaradwch â phawb, gwrandawch ar bawb a gweithiwch yn galed. Yn fy mhrofiad i, y gweithwyr caled sydd wastad yn cael eu hethol. Byddwch yn amlwg a pheidiwch ag ofni bod â syniadau a byddwch yn barod i gael eich herio.
Pe gallech chi droi’r cloc yn ôl, fuasech chi’n gwneud y cyfan eto? Neu beth fyddech chi’n ei wneud yn wahanol?
Buaswn i'n gwneud y cyfan eto, roeddwn i'n dwli ar fod yn swyddog. O ran gwneud pethau'n wahanol, buaswn i'n ddewrach wrth wneud safiad. Nid rheoli Undeb y Myfyrwyr mo'r diben, ond arwain cymuned. Pe bawn i'n cael cyfle eto, buaswn i'n canolbwyntio'n fwy ar herio'r Brifysgol i wneud yn well, ac ar ddod â myfyrwyr ynghyd i gyflawni pethau a llawer llai ar faint o arian sydd gan yr Undeb a pha mor llwyddiannus oedd ein gwasanaethau masnachol.
Pe gallech chi grynhoi eich profiadau mewn pum gair, beth fyddai'r rheiny?
Cyffrous, trawsffurfiol, cyfrifoldeb, creadigol, hwyl