Yn dilyn cyfnod hir o ymgynghori ynghylch rolau swyddogion myfyrwyr UMAber, rydyn ni'n cyflwyno gwelliannau i wneud rolau swyddogion yn berthnasol i fyfyrwyr a'u bod yn adlewyrchu anghenion presennol myfyrwyr Aber.
Yn dilyn cyfnod hir o ymgynghori ynghylch rolau swyddogion myfyrwyr UMAber, rydyn ni'n cyflwyno gwelliannau i wneud rolau swyddogion yn berthnasol i fyfyrwyr a'u bod yn adlewyrchu anghenion presennol myfyrwyr Aber.
Rydym wedi ymgynghori â phob strwythur ffurfiol yn ystod y broses, o Ymddiriedolwyr UMAber i bwyllgorau'r Brifysgol, ac mae myfyrwyr wedi cael llais er mwyn penderfynu pa rolau swyddogion a blaenoriaethau ddylai fod wrth symud ymlaen.
Canlyniad yr Adolygiad o Rôl y Swyddogion yw cynnal 5 swyddog llawn-amser gyda theitlau a swydd-ddisgrifiadau ychydig yn wahanol:
1. Datblygu'r Undeb
Mae'r rôl hon yn adlewyrchu dechrau pennod newydd ar gyfer yr Undeb drwy ganolbwyntio ar wneud yr Undeb yn well ar gyfer y dyfodol a sicrhau bod llais myfyrwyr i'w glywed.
2. Cyfleoedd Myfyrwyr
Mae'r rôl hon yn rhoi sylw penodol ar roi i fyfyrwyr Aber y daith myfyrwyr orau posib a rhoi iddynt fwy na dim ond gradd.
3. Llesiant
Mae'r rôl hon yn canolbwyntio ar sicrhau bod ein myfyrwyr yn hapus ac yn iach.
4. Materion Academaidd
Mae'r rôl hon yn rhoi sylw penodol i hyrwyddo buddiannau academaidd ein myfyrwyr.
5. Diwylliant Cymru a Llywydd UMCA
Mae'r rôl hon yn canolbwyntio ar hyrwyddo diwylliant Cymru gan roi cyfle i fyfyrwyr Aber ddysgu, siarad a byw'r iaith.
Hefyd daeth gwelliannau yn y rolau rhan-amser sydd ar gael allan o'r adolygiad o rolau swyddogion, er mwyn creu mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr gael eu clywed:
1. Swyddog Codi Arian a Rhoddi (RAG)
2. Cadeirydd yr Undeb
3. Swyddog yr Amgylchedd a Chynaladwyedd
4. Swyddog yr Iaith Gymraeg
5. Swyddog Myfyrwyr Hyn
6. Swyddog Myfyrwyr Ôl-raddedig
7. Swyddog y Myfyrwyr Rhyngwladol
8. Swyddog Croenddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (CALlE)
9. Swyddog LHDTQ+
10. Swyddog y Menywod
11. Swyddog y Myfyrwyr Anabl
12. Swyddog Campws Llanbadarn
13. Swyddog Campws Mawrisiws
Byddai'r strwythur swyddogion newydd yn cael ei gynorthwyo gan barthau myfyrwyr i gynrychioli llais myfyrwyr Aber sy'n ymwneud â meysydd penodol, h.y. llesiant, chwaraeon a chymdeithasau. Bydd y parthau hyn yn cynnig mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr gael eu clywed ac i fwy o fyfyrwyr gymryd rhan.
Mae'r newidiadau hyn yn adlewyrchu strategaeth a gweledigaeth newydd UMAber o ran beth yw hanfod Undeb Myfyrwyr; darparu ar gyfer myfyrwyr a rhoi cymorth iddynt.
Mae Llywydd UMAber, Lauren Marks, yn teimlo'n "gyffrous iawn ynglyn â'r rolau newydd, sy'n cydweddu'n dda â ffocws a strategaeth newydd yr Undeb. Rwyf yn gobeithio bod myfyrwyr Aber yn teimlo'n angerddol ynglyn â symud yr Undeb ymlaen, ac y byddant yn dewis sefyll yn yr etholiadau; gan wneud yr etholiadau'n fwy ac yn well nag erioed o'r blaen."
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglyn â'r rolau newydd a'u blaenoriaethau, neu os oes diddordeb gennych mewn ymgeisio ar gyfer un o'r swyddi hyn, mae croeso i chi e-bostio undeb@aber.ac.uk.