Digwyddiad Rhwydweithio Cynrychiolwyr Academaidd a Chymdeithasau

Helo!

Rydym yn falch iawn o’ch gwahodd i’n digwyddiad Rhwydweithio Cynrychiolwyr Academaidd a Chymdeithasau ar ddydd Mercher 18 Chwefror o 1:00 PM i 2:30 PM yn y Picture House yn Undeb Aber

Bydd y digwyddiad hwn yn gyfle gwych i gwrdd â chynrychiolwyr a Chymdeithasau Academaidd eraill, rhannu profiadau, a chysylltu â staff allweddol y brifysgol.

Uchafbwyntiau’r Digwyddiad:

  • Clywed gan siaradwyr o wahanol adrannau, gan gynnwys Gwasanaethau Myfyrwyr, y Tîm Ymgysylltu Academaidd, a Gwasanaethau Gyrfaoedd.

  • Cymryd rhan mewn cwis cyffrous gyda gwobr!

  • Mwynhau cinio am ddim wrth rwydweithio gyda’ch cyd-gynrychiolwyr a chymdeithasau.

Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i feithrin perthnasoedd, casglu gwybodaeth ddefnyddiol ar gyfer eich rôl, a dysgu mwy am yr adnoddau sydd ar gael i chi a’ch cyfoedion.

RSVP drwy gofrestru trwy’r ddolen hon: https://umabersu.wufoo.com/forms/w8dsgf3115txxe/

Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno!

More Events

Postgraduate Student?? Share your experiences
11th March
Undeb Picturehouse
Flabbergast Theatre: Macbeth
11th March
short desc?
Macbeth
11th March
short desc?
Gorymdaith Adennill y Nos
12th March
Bandstand
Mae ein gorymdaith Adennill y Nos yn dod â myfyrwyr a’r gymuned ehangach ynghyd. Dewch draw i fod yn rhan o wneud gwahaniaeth
Reclaim the Night March
12th March
Meet at the Bandstand
Our annual Reclaim the Night march brings students and the wider community together.
Carioci
12th March
Cwtch Bar - Undeb Aber
short desc?
Karaoke
12th March
Cwtch Bar - Undeb Aber
short desc?