Ffair Reffreshars (Diwrnod 1)
Ydych chi am ddechrau'r flwyddyn newydd gyda chyffro ac egni?
Ein Ffair Reffreshars ni yw eich drws i lond tymor o atgofion byth gofiadwy ac yn rhoi i chi’r cyfle i ddysgu mwy am beth sydd gan Undeb Aber a sefydliadau eraill i’w gynnig!
Beth i’w ddisgwyl:
Yr Awr Dawel: Dechreuwch y Ffair Reffreshars gyda munud fach dawel! Dewch i fanteisio ar yr Awr Dawel, ni fydd dim cerddoriaeth sy’n helpu creu man tawel a chynhwysol. Cofiwch nôl bathodyn anabledd oddi wrth stondin yr Undeb i chi fynd o gwmpas y digwyddiad wrth eich pwys a heb straen.
Cyfleoedd Diderfyn: Mae dros 120 o glybiau, cymdeithasau, a phrosiectau gwirfoddoli i’w darganfod! Mae gan Tîm Aber rywbeth at ddant pawb, boed yn chwaraeon, diddordebau, neu ddechrau eich grŵp eich hun.
Stondinau Rhyngweithiol: Tarwch sgwrs gyda chynrychiolwyr angerddol o fusnesau a sefydliadau lleol ac adrannau’r Undeb. Dysgu am eu gwasanaethau, eu nwyddau, a’u hymgyrchoedd – mae yna gymaint i’w weld!
Pethau Am Ddim: Peidiwch â cholli’r pethau, danteithion, gwobrau hwyliog unigryw fydd i’w cael am ddim! Dewch â bag a rhowch dro ar yr olwyn wrth stondin yr Undeb i gael y cyfle i ennill rhywbeth cyffrous.
Perfformiadau Arbennig: Dewch i brofi harmonïau hardd y cantorion madrigalau Elisabethaidd, cymdeithas hynaf Aberystwyth!Are you ready to kick off the new year with new opportunities?