Gweithdy deall syndrom twyllwr (a sut i wthio heibio iddo i ddod o hyd i lwyddiant) gan Lucy Orton

***Bachwch docyn AM DDIM a chaiff y ddolen Zoom ei hanfon atoch y diwrnod cyn y gweithdy***

Yn y sesiwn hon, bydd Lucy Orton, arbenigwr gwrth-hunan-ddifetha, podlediwr a hyfforddwr seicoleg gadarnhaol yn siarad am ei gwaith yn helpu entrepreneuriaid benywaidd a phobl eraill sy’n gweithredu â phwrpas i wthio heibio syndrom twyllwr a chreu mwy o lwyddiant ym mhob agwedd ar eu bywydau.

Mae Lucy yn gweld llawer o gleientiaid sy’n wynebu pob math o broblemau wrth geisio credu eu bod yn haeddu'r llwyddiant, y swyddi, y busnesau a phopeth arall maen nhw wedi'u cyflawni. Maent yn poeni eu bod ar fin cael eu darganfod ar unrhyw foment ac yn amheus ynghylch eu sgiliau a'u doniau.

Gan ddefnyddio offer fel hyfforddiant a seicoleg gadarnhaol, mae Lucy’n ymhyfrydu mewn datrys y credoau cyfyngol sydd wrth wraidd syndrom twyllwr, a sut mae gwthio heibio'r pryderon hyn yn arwain at hunan-gred go iawn ac agwedd lawer mwy bodlon tuag at fywyd a gwaith.

 

Yn ystod y gweithdy hwn bydd Lucy’n trafod:

  • Beth yw syndrom twyllwr a phwy mae'n effeithio arno?
  • Ym mha ffyrdd y gall syndrom twyllwr fynegi ei hun?
  • Sut allwn ni wthio heibio i syndrom twyllwr?
  • Creu byd a diwylliant heb syndrom twyllwr

Ymunwch yma:? https://us02web.zoom.us/j/89746260683

***Bachwch docyn AM DDIM a chaiff y ddolen Zoom ei hanfon atoch y diwrnod cyn y gweithdy***

More Events

Elections Standing
21st September - 12th October
Etholiadau: Sefyll
21st September - 12th October
Coffee morning
6th October
Caffi Bach, Gwendolen Rees
Elections Candidate Briefing
12th October
Undeb Aberystwyth Picturehouse
Etholiadau: Briffio’r Ymgeiswyr
12th October
UM Picturehouse
BUCS
14th October
BUCS
14th October
short desc?
Ffair Lles a Gwirfoddoli
15th October
Undeb Aber Prif Ystafell