'Cyflwyno'ch Hun yn yr Eiliadau sy'n Bwysig.' Gweithdy gan John Scarrott

***Bachwch docyn AM DDIM a chaiff y ddolen Zoom ei hanfon atoch y diwrnod cyn y gweithdy***

Bydd eich llwyddiant mewn bywyd yn dibynnu i raddau sylweddol, ar ba mor dda y byddwch yn dod ar draws i eraill. P'un a yw'n gyfweliad, cyfarfod, cyflwyniad, cyfle i siarad, neu rywbeth arall, dyma'ch cyfle i fynegi eich hun, i ddweud “dyma fi, dyma’r hyn sydd gen i i’w gynnig.” Pan fydd cyfathrebu'n wirioneddol bwysig, sut ydych chi'n gwneud i'ch cyfathrebu chi gyfrif? Bydd y gweithdy hwn yn eich cyflwyno i PYPH, fframwaith y gallwch adeiladu eich llwyddiant arno.

Mae mwy i PYPH na dim ond set o awgrymiadau defnyddiol. O'u defnyddio yn eu trefn, mae PYPH yn gweithio i'ch galluogi i greu'r hyder sydd ei angen arnoch i berfformio hyd eithaf eich gallu ym mhob sefyllfa lle mae'r ffordd rydych chi'n cyfathrebu’r un mor bwysig â'r hyn rydych chi'n ei ddweud.

Yn y sesiwn 30 munud hon byddwch yn dysgu am:

  • PYPH: beth ydy hyn a sut mae’n gweithio
  • Sut i wneud i PYPH weithio i chi
  • Sut mae PYPH yn gweithio yn ei gyd-destun

Byddwch chi'n gadael gyda'r hanfodion i wneud i PYPH weithio i chi.

Ar ôl y sesiwn bydd 15 munud ar gyfer cwestiynau.

Ymunwch â’r Cyfarfod Zoom: https://us02web.zoom.us/j/83580690644

Cofrestrwch nawr ac ewch ati i weithredu:

  • Anfonwch eich cwestiynau ataf ymlaen llaw: jdscarrott@googlemail.com
  • Cysylltwch â mi ar LinkedIn: https://www.linkedin.com/in/johndscarrott/

 

Agenda

Cyflwyno PYPH

  • Paratoi: sicrhau eich bod yn barod ar gyfer llwyddiant
  • Ymarfer: ewch ati o ddifrif wrth fynd dros yr hyn sydd gennych chi i’w ddweud
  • Perfformiad: cyflawni yn y foment
  • Hyder Personol: ewch â’r pwer ymlaen i'ch profiad nesaf

 

Rhoi PYPH ar waith

  • Cyfweliad Un-i-Un
  • Cyflwyniad i Grwp Bach
  • Cyfle i Siarad
  • Gwneud i'r cyfan weithio dros Fideo (e.e. Zoom)

 

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Ymunwch a chewch gyfle i Ennill: Mynychwch y Gweithdy hwn, a bydd cyfle i chi ennill un o ddwy Raglen Hyfforddi Bersonol.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

 

Mae mynychu'r sesiwn gweithdy 30 munud hon yn ffordd wych o ddechrau dysgu am yr hyn sydd ei angen arnoch chi i fod yn gyfathrebwr gwych. Sut hoffech chi gael y cyfle i barhau â'ch gwaith, gyda rhaglen hyfforddi bersonol un-i-un?

Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod yn rhoi cyfle i bawb sy'n mynychu'r gweithdy hwn i ennill y wobr hon.

Bydd pob person sy'n mynychu yn cael eu cynnwys mewn raffl i ennill un o ddwy Raglen Hyfforddi Bersonol fer. Bydd pob rhaglen yn cynnwys tair sesiwn 1 awr, ynghyd â galwad sefydlu a chwblhau 30 munud, a byddant yn cael eu cynnal yn gyfangwbl dros fideo. Yr enillwyr fydd yn cael dewis y thema. Bydd y Llywydd yn tynnu’r raffl ar ôl y gweithdy a bydd yr enillwyr yn cael eu hysbysu trwy e-bost.

***Bachwch docyn AM DDIM a chaiff y ddolen Zoom ei hanfon atoch y diwrnod cyn y gweithdy***

More Events

Meet Jane Dodds (Senedd Member)
26th April
SU Room 4
Senedd
29th April
SU Picturehouse
Y Senedd
29th April
Picturehouse yr UM
Aber Celebrates: Sports and Societies
1st May
Recognises the dedication of students to their Sports Club and Societies recognising contributions socially, competitively and professionally.
Dathlu Aberystwyth: Chwaraeon a Chymdeithasau
1st May
Sy'n cydnabod ymroddiad myfyrwyr i'w clybiau chwaraeon a chymdeithasau cydnabod cyfraniadau cymdeithasol, cystadleuol a phroffesiynol.
Aber Celebrates: Teaching, Learning, and Student Experience
2nd May
SU Main Room
AberSU Celebrates is our chance each year to recognise the hard work and achievements of students and staff across Aberystwyth University. All students can nominate and you can nominate multiple individuals for multiple awards!
Dathlu Aberystwyth: Addysgu, Dysgu A'r Profiad Myfyrwyr
2nd May
Ystafell Fawr Undeb Aberystwyth
Sy’n cefnogi arfer gorau drwy dynnu sylw at ragoriaeth addysgu a chydnabod cyfraniadau staff a myfyrwyr at brofiad y myfyrwyr.
Aber7s
4th-5th May
Blaendolau playing fields
Aber7s 2024
4th-5th May
Blaendolau playing fields
THE biggest Rugby 7s festival in Wales!