Wythnos Refreshers

Wythnos Refreshers

Yma yn UMAber rydym am i fyfyrwyr Aber garu bywyd myfyrwyr; a chredwn mai un o'r ffyrdd o wneud hyn yw trwy ymuno â chlybiau chwaraeon a chymdeithasau, er mwyn helpu i ddod o hyd i'ch cymuned yn Aber.

Er na allwn gynnal Wythnos Refreshers yn ei ffurf draddodiadol eleni ... rydym yn dal i allu cynnal wythnos rithwir i ailgyflwyno ein clybiau chwaraeon, ein cymdeithasau a'n cyfleoedd gwirfoddoli anhygoel - gydag ychydig o gynigion a gostyngiadau arbennig i fyfyrwyr yn cael eu cynnwys yn y fargen.

Nid ar gyfer myfyrwyr newydd yn unig y mae Wythnos Refreshers - mae'n gyfle i siarad â dros 150 o glybiau chwaraeon a chymdeithasau, darganfod mwy am nifer o gyfleoedd gwirfoddoli a'r hyn sydd gan yr UM ac Aberystwyth i'w gynnig i unrhyw fyfyriwr.

Dyma ychydig o'r digwyddiadau / gweithgareddau rydyn ni wedi'u trefnu:

Dydd Llun 22ain : Cyfleoedd Gwirfoddoli gydag Amy (1pm - 3pm)

Dydd Mawrth 23ain : Cyfarfod â Chlybiau Chwaraeon a Chymdeithasau (1pm - 4pm)

Dydd Mercher 24ain : Cyfarfod â chlybiau chwaraeon a chymdeithasau (1pm - 4pm)

Dydd Iau 25ain : Cyfarfod â Chlybiau Chwaraeon a Chymdeithasau (1pm - 4pm)

Dydd Gwener 26ain Dydd Sul 28ain : Byddwn yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi draw ar ein straeon Insta.

 

Blogiau dyddiol:

Mae ein swyddogion a'n staff hefyd wedi paratoi blogiau dyddiol ar bopeth sy’n ymwneud ag Aber, i’w rhyddhau ar adran newyddion ein gwefan bob dydd; gan rannu ein profiadau o astudio yn Aber, gweithio yn yr Undeb a byw yn Aberystwyth a'r cyffiniau.

 

 

Cynigion i Fyfyrwyr

Rydyn ni wedi bod mewn cysylltiad â nifer o fusnesau lleol yn Aberystwyth i ddod â bargeinion a chynigion Wythnos Refreshers i chi.

Edrychwch ar y dudalen hon am gynigion (gyda rhai yn gyfyngedig i'r wythnos hon yn unig):

 

Raffl Wythnos Refreshers:

Am yr wythnos hon yn unig ... Bydd unrhyw un sy'n ymuno â chlwb neu gymdeithas rhwng yr 22ain a’r 26ain Chwefror 2021 yn cael ei gynnwys mewn raffl am gyfle i ennill un o bedwar taleb Amazon gwerth £25.

 

Gyda digwyddiad eleni yn un rhithwir; mae mwy fyth o reswm dros gymryd rhan, ymuno â chlwb chwaraeon neu gymdeithas, cwrdd â phobl newydd a dysgu sgiliau newydd i wneud ein profiad prifysgol y gorau y gall fod yn 2021.

More Events

FFAIR TAI
2nd December
Prif Ystafell yr Undeb
short desc?
Housing Fair
2nd December
Main Room - Undeb Aber
Sesiwn Lliwio a Llymaid - Paint and Sip - Event Cancelled
2nd December
Undeb Aber, Picture House ,
Grwpiau Trafod Myfyrwyr
3rd December
short desc?
Student Discussion Groups
3rd December
short desc?
Grwpiau Trafod Myfyrwyr
3rd December
short desc?
Student Discussion Groups
3rd December
short desc?
Grwpiau Trafod Myfyrwyr
4th December
short desc?
Student Discussion Groups
4th December
short desc?
Bauble Making Workshop
4th December
Picture House - Undeb Aber
short desc?