Swn
Noswaith o gerddoriaeth Gymraeg yn UMAber unwaith y mis: Swn.
O hen glasuron cawslyd i gerddoriaeth Gymraeg gyfoes.
Mae’r digwyddiad hwn bob amser yn boblogaidd ymysg myfyrwyr a dyma uchafbwynt rhai ohonynt yn y Brifysgol.
Ein Swyddog Diwylliant Cymreig, Gwion, sy’n cynnal y noswaith fydd yn berffaith i unrhyw un sydd â diddordeb yn niwylliant Cymru a cherddoriaeth Gymraeg. Dewch yn llu!
Am fwy gwybodaeth, ewch i'r digwyddiad Facebook - https://www.facebook.com/events/1594464743922931/