Cyfarfod Pleidlais yr Holl Fyfyrwyr
Rydym yn galw am bleidlais yr holl fyfyrwyr ar ôl i ni dderbyn deiseb gan fyfyrwyr.
Cwestiwn y bleidlais i'r holl fyfyrwyr fydd...
“A ddylai Undeb Aber weithio gyda’r Brifysgol i beidio â gwerthu cynnyrch Costa Coffe yn y ‘Cwtsh Coffi’ sy’n eiddo i’r Brifysgol yn adeilad Undeb y Myfyrwyr a throi at gyflenwr coffi o Gymru yn lle?”
Balot y mae holl aelodau Undeb Aberystwyth yn cael bwrw pleidlais ynddo yw ‘Pleidlais yr Holl Fyfyrwyr’. Ni ellir ond pasio cynnig gan Bleidlais mewn Refferendwm o’r Holl Fyfyrwyr pe bai 500 o Aelodau yn bwrw pleidlais yn y Bleidlais o’r Holl Fyfyrwyr a bod mwyafrif o’r pleidleisiau o blaid y cynnig.
Bydd y cyfarfod hwn yn cynnwys briffio ar Bleidlais yr Holl Fyfyrwyr, yn ogystal â’r cyfle i’r Ymgyrchoedd “O Blaid” ac “Yn Erbyn” drefnu eu hunain.