Yr ACF a fi

Mae'r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn arolwg cenedlaethol o israddedigion yn eu blwyddyn olaf yn y DU. Mae'n gofyn sawl cwestiwn ynglyn â'ch amser a'ch profiadau yn y brifysgol.

Educationofficerblogwelshryanwelsh
No ratings yet. Log in to rate.

Mae'r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn arolwg cenedlaethol o israddedigion yn eu blwyddyn olaf yn y DU. Mae'n gofyn sawl cwestiwn ynglyn â'ch amser a'ch profiadau yn y brifysgol. Mae'n gofyn cwestiynau ar ystod o bynciau gan gynnwys yr addysgu a gewch, yr asesu a'r adborth a gewch a sut rydych chi'n teimlo y cewch chi leisio eich barn yn y brifysgol. Mae'r ACF yn mesur bodlonrwydd myfyrwyr gan ddefnyddio nifer y myfyrwyr a gyflwynodd ddatganiadau ynglyn â'u cwrs, yna bydd Ipsos MORI'n casglu'r data a'i droi'n ddienw ar gyfer pob prifysgol cyn ei gyhoeddi.

Yr ACF yw un o'r prif ffyrdd mae'r brifysgol yn gwybod eich barn am eich cyfnod yn Aber a bydd eich ymatebion yn ein helpu ni yn Undeb y Myfyrwyr a'r Brifysgol i wybod yr hyn wnaethom yn dda a'r hyn mae modd i ni ei wella ar gyfer myfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr. Mae'r ACF nid yn unig yn helpu'r Brifysgol i wella, mae hefyd yn rhoi tystiolaeth i ni yma yn Undeb y Myfyrwyr o ran barn y myfyrwyr.

Rydyn ni wedi llwyddo i ddefnyddio data'r ACF fel rhan o'n hymgyrch asesu ac adborth llynedd i weithredu'r polisi newydd adborth o fewn 15 diwrnod gwaith ac eleni, i gydnabod y gwaith a gaiff ei wneud ynghylch asesu ac adborth, byddwn ni'n cyflwyno gwobr newydd yn ein gwobrau dysgu blynyddol (ond bydd rhagor am hynny mewn blog arall).

Cewch gwblhau'r ACF nawr ar www.thestudentsurvey.com/cy er y caiff ei lansio'n swyddogol yn Ail Ffair y Glas yn Undeb y Myfyrwyr ar 30 Ionawr. Fel cymhelliant i'w lenwi, mae'r Brifysgol yn cynnal cystadleuaeth i bob myfyriwr sy'n ei lenwi cyn dydd Llun 28 Chwefror. Bydd y rheiny'n mynd i mewn i lotri wobrau am gyfle i ennill iPad Air 2 neu GoPro HERO4 Silver (dwi wedi clywed bod y GoPro yn dda iawn).

Hefyd ar gyfer ymgyrch yr ACF eleni, bydd yr hwyaden wynt enwog 6 troedfedd #CwacAber yn dychwelyd yn ogystal â llawer o'i chefndryd di-rywedd o gwmpas y campws. Cadwch lygad allan ar y campws ac ar Twitter!

Felly rhowch wybod i ni a ydyn ni'n addas i'r diben a rhoia i ffeithiau ynglyn â hwyaid i chi yn y cyfamser.

Mae'r hyn rydyn ni'n aml yn ei ystyried yn “hwyaden” mewn gwirionedd yn sawl math yn y teulu Anatidae o adar, sy'n cynnwys elyrch a gwyddau. Yr hwyaden fwyaf cydnabyddedig yw'r Hwyaden wyllt. Mae gan yr hwyaden wyllt wrywaidd ben gwyrdd sgleiniog, adenydd a bol llwyd ac mae gan yr hwyaden fenywaidd blu brith brown. Mae gan hwyaid gwyllt dymor bwrw plu ac maen nhw'n fregus yn ystod y cyfnod hwn am fod hynny'n eu rhwystro rhag hedfan. Yn olaf, cefais wybod gan ffynhonnell ddibynadwy bod cwac hwyaid yn atseinio.

Comments

 
There are no current news articles.