Newyddion da am ddyfodol Pantycelyn

blogswyddoggwionofficerblogwelshwelshaffairsandumca
No ratings yet. Log in to rate.

Prifysgol Aberystwyth yn cymeradwyo’r arian tuag at ail-agor Pantycelyn erbyn Medi 2019.

Wedi dwy flynedd a hanner o frwydro dros sicrhau bod Pantycelyn yn ail-agor fel neuadd breswyl cyfrwng Cymraeg, mae’r ymgyrch wedi cyrraedd y garreg filltir bwysicaf hyd yn hyn. O’r diwedd, mae’r Brifysgol wedi caniatáu'r arian ar gyfer y prosiect adnewyddu er mwyn sicrhau y bydd Pantycelyn yn ail-agor, a hynny ym mis Medi 2019. Mae’r Brifysgol o’r diwedd wedi mynegi eu hymrwymiad i ail-agor Pantycelyn, gan ddynodi hefyd mai Pantycelyn fydd un o’u brif brosiectau.

Ers i’r adeilad gau ym 2015, bwriad ein hymgyrch oedd ceisio sicrhau bod neuadd hanesyddol Pantycelyn yn cael ei hail-agor erbyn 2019. Er bod ein llety wedi gorfod symud i Benbryn yn y cyfamser, nid yw ysbryd Pantycelyn wedi diflannu o feddyliau ein haelodau. Mae UMCA yn hynod falch o ymrwymiad y Brifysgol, nid yn unig i Bantycelyn fel adeilad, ond hefyd i'r gymdeithas Gymraeg a Chymreig a’u dymuniadau hwy yma yn Aberystwyth. Mae holl aelodau’r a chyn-aelodau’r Undeb sydd wedi ymgyrchu dros Bantycelyn wedi disgwyl yn hir i glywed y newyddion yma. Heb os nac oni bai, mae’r ymgyrch wedi bod yn un gref ers y bygythiad cyntaf.

Hoffwn ni, fel Undeb, estyn ein diolch i’r Is-ganghellor, Elizabeth Treasure, am ei holl waith caled wrth i ni barhau â’r ymgyrch. Dengys penderfyniad y Brifysgol i fuddsoddi arian yn nyfodol Pantycelyn fod ganddynt agwedd gadarnhaol tuag at fyfyrwyr Cymraeg Prifysgol Aberystwyth a’u gwerthoedd. Hoffwn ddiolch hefyd i gadeirydd Bwrdd Prosiect Pantycelyn, Gwerfyl Pierce Jones, am ei chefnogaeth a’i chymorth diffuant tuag at UMCA drwy gydol y cyfnod ansicr rydym wedi ei wynebu. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosib heb holl waith caled dau o gyn-lywyddion UMCA, Hanna Merrigan a Rhun Dafydd. Diolch i’r ddau am barhau â’r ymgyrch a chadw ysbryd cymdeithas Pantycelyn yn fyw.

Mae UMCA yn edrych ymlaen at weld camau nesaf y Brifysgol er mwyn sicrhau bod Pantycelyn yn cael ei ail-agor erbyn Medi 2019. Rydym fel Undeb yn barod i roi cymorth i’r Brifysgol i ymgymryd â’r gwaith caled nawr o ddechrau denu myfyrwyr newydd yn ôl i Pantycelyn yn 2019.

Comments

 
There are no current news articles.