Cyfranogi

Fel mae rhai ohonoch chi'n ymwybodol, roeddem yn frwd iawn ynglyn ag ymgyrch #ThisGirlCan yma yn yr Undeb.

Activitiesjasmineofficerblogwelshwelsh
No ratings yet. Log in to rate.

Fel mae rhai ohonoch chi'n ymwybodol, roeddem yn frwd iawn ynglyn ag ymgyrch #ThisGirlCan yma yn yr Undeb. Diben yr ymgyrch yw annog mwy o fenywod i gyfranogi yn y ddarpariaeth chwaraeon ac i drechu rhai o'r rhwystrau mae menywod yn eu hwynebu wrth ddechrau rhywbeth newydd fel ymuno â chlwb neu fynd i'r gampfa am y tro cyntaf.

Roeddwn i am wneud i'r ymgyrch hon fod yn berthnasol i fenywod yn Aber i brofi bod modd i bob un o'n myfyrwragedd a'n staff gyfranogi beth bynnag fo'u hoedran, gallu neu rywedd. I mi, y ffordd orau o dynnu sylw at y menywod anhygoel yn Aber oedd canolbwyntio ar rai o'r menywod rhagorol sydd gennym mewn chwaraeon. Gofynnais i ambell unigolyn i roi crynodeb o'r rhesymau pam maen nhw'n cymryd rhan mewn chwaraeon ac ymarfer corff, sut mae hyn yn eu helpu a'r hyn y bydden nhw'n ei argymell i'r holl fyfyrwragedd eraill yn Aber ynglyn â sut i gyfranogi! Hon oedd agwedd orau'r ymgyrch o bell ffordd. I mi roedd hi'n braf cael clywed am yr hyn mae ein myfyrwyr yn ei wneud a sut maen nhw'n cyfrannu at chwaraeon yn Aber, felly mae angen i mi ddweud diolch yn fawr iawn i'r merched a dreuliodd amser yn ysgrifennu ychydig amdanyn nhw eu hunain *DIOLCH*!!  Roedd y blogiau hyn mor llwyddiannus yma yn yr Undeb; ysgrifenodd un o'n tîm flog ysbrydoledig iawn a roddodd gipolwg ar ei hintiau handi ar sut i ddod yn actif a chyngor i'r rheiny sydd am gyfranogi ond sydd ychydig yn nerfus!

 Her arall a osodais i fy hun oedd mynychu o leiaf un dosbarth y dydd am wythnos yng Nghanolfan Chwaraeon Prifysgol Aberystwyth a chreu fideo o fy ymdrechion. Rhaid i mi gyfaddef, ar ddechrau'r wythnos, roeddwn i'n eithaf ansicr oherwydd doeddwn i ddim yn meddwl fy mod i'n ddigon heini i fynychu dosbarth! Ar ôl y dosbarth cyntaf, roedd hi'n amlwg iawn pa mor galed roeddwn i wedi gweithio yn y dosbarth, a doedd lefel fy ffitrwydd ddim hyd yn oed yn bwysig! Yn syth ar ôl diwedd y dosbarth, teimlais i'n ffres (ac yn chwyslyd iawn) a theimlais yn well yn gyffredinol am godi cyflymder curiadau fy nghalon ychydig yn fwy na chyffredin! Ar ôl i'r adrenalin fynd wedi'r dosbarth, dechreuais i deimlo cyhyrau doeddwn i ddim yn gwybod eu bod yn bodoli ac roeddwn i'n eithaf stiff. Roedd cysgu'n anodd iawn am fy mod i mewn cymaint o boen; doeddwn i ddim yn gallu symud!

Ar yr ail ddiwrnod, roeddwn i'n eithaf blinedig ar ôl noson wael o gwsg, ond methodd hynny rhag fy rhwystro i - es i ddau ddosbarth! Roeddwn i'n dal yn stiff wedi'r diwrnod blaenorol ond unwaith i mi ddod yn gyfarwydd ag ymarfer corff yn y dosbarthiadau, roeddwn i'n gallu ymlacio a symud unwaith eto! Sylweddolais fy mod i'r stiff ar ôl bod yn eistedd am gyfnod hir, felly roedd symud o gwmpas fy nesg yn destun hwyl i'r swyddogion eraill (croeso i chi fwynhau!)  Yn ffodus, llwyddais i gysgu'n well ar ôl yr ail ddiwrnod, gan fy mod i wedi blino'n llwyr!

Ymlaen i ddiwrnod 3; roeddwn i wedi dysgu fy ngwers o'r diwrnod blaenorol, felly mynychais un dosbarth yn unig! Roedd y dosbarth y penderfynais fynd iddo yn nes ymlaen yn y diwrnod, a sylweddolais fy mod i'n edrych ymlaen at ddiwedd y dydd, oedd yn golygu y buaswn i'n gallu mynd i wneud ymarfer corff. Un o'r rhesymau pam roeddwn i'n teimlo mor gyffrous oedd oherwydd y buaswn yn gallu defnyddio hyn i ymlacio'n feddyliol yn ogystal â chael sesiwn ymarfer corff. Erbyn y pwynt hwn yn yr wythnos, roedd fy meddwl a fy nghorff yn gweithio gyda'i gilydd i raddau, oedd yn fy ngalluogi i fwynhau'r profiad, ac roedd yn ffordd dda i orffen y diwrnod a gallu ymlacio ar ôl cyrraedd adref, oedd unwaith eto'n golygu fy mod i'n gallu cael noson dda o gwsg.

Diwrnod 4; roeddwn i'n dal i deimlo braidd yn anghyfforddus, yn ddigon i fy atgoffa fy mod i wedi rhoi cryn ymdrech i mewn i weithio'n galed dros yr ychydig ddyddiau blaenorol. Fel diwrnod 3, roedd y dosbarth ychydig yn hwyrach yn y dydd, felly cefais fy hun yn gwylio'r cloc gan edrych ymlaen at fynd i'r dosbarth! Roedd hwn yn un o'r dosbarthiadau lle'r oedd gen i gwmni; roedd Naomi (Swyddog Lles) yn teimlo'n gyffrous ynglyn â'r dosbarth, felly roeddem yn rhannu'r brwdfrydedd yn y swyddfa gydol y diwrnod. Wedyn, roedd y ddwy ohonom yn teimlo'n dda ynglyn â'r ffaith ein bod ni wedi mynychu'r dosbarth; roeddem yn gallu dweud pa rannau wnaethon ni fwynhau fwyaf!

Roedd diwrnod 5 yn dipyn o syndod i mi. Doedd fy nghyhyrau ddim yn brifo bellach, ac roeddwn y teimlo fy mod i'n sgipio i bobman yn hytrach na cherdded. Roedd gen i gymaint o egni ac roedd fy meddylfryd yn bositif, oedd yn golygu fy mod i'n gallu canolbwyntio cymaint mwy ar fy ymgyrchoedd eraill. Roedd gen i fwy o gymhelliant o ran mynd ati i gwblhau'r gwaith oedd yn disgwyl amdanaf. Roedd fel pe bai'r dosbarth yn rhywbeth angenrheidiol ar gyfer y diwrnod; fel y diwrnodau eraill, roedd yn ffordd dda o ganolbwyntio ar fy ngwaith ac ar ymgyrchoedd eraill. Unwaith i mi orffen y dosbarth, teimlais ollyngdod, nid bod y cyfan drosodd, ond oherwydd fy mod i wedi cwblhau'r wythnos ac wedi dal ati i fynychu pob un o'r dosbarthiadau, heb son am ba mor iach oeddwn i'n teimlo yn sgil yr holl ymarfer corff.

Rhaid i mi gyfaddef i mi gymryd seibiant dros y penwythnos, ond roeddwn i'n teimlo fy mod i'r methu allan ar rywbeth!! Ers wythnos #ThisGirlCan, dwi wedi ceisio dal ati i wneud ymarfer corff yn rheolaidd, felly dwi wedi bod yn mynd i'r gampfa, mynd i ddosbarthiadau ac yn mynychu sesiynau ymarfer polo-dwr.  Os oes un peth yr hoffwn i ddweud wrth y rheiny ohonoch sydd am fynd ati i wneud rhywbeth egnïol ond sy'n rhy nerfus i wneud hynny, does dim rhaid i chi ofidio am unrhyw beth, mae'n ffordd mor dda o edrych ar ôl eich hun yn gorfforol, yn emosiynol ac yn feddyliol!! Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglyn â sut i ymuno â chlwb neu i gyfranogi mwy, mae croeso i chi fy e-bostio (undeb.gweithgareddau@aber.ac.uk)!

 

Comments

 
There are no current news articles.