Cyflwyniadau...
Shwmae! Emma ydw i, a fi yw eich Swyddog Materion Academaidd ar gyfer 2017/18. Fy swyddogaeth i yw sicrhau bod llais y myfyrwyr i'w glywed yn glir ac yn groch, yn ogystal â hyrwydo eich buddiannau academaidd. Dyma rai o fy mhrif flaenoriaethau ar gyfer eleni:
- Cydweithio'n glòs â'r Gwasanaeth Gyrfaoedd i weithio ar gyflogadwyedd a sicrhau bod myfyrwyr yn gadael Aber yn broffesiynwyr ifanc hyderus a chymwysedig. Byddaf yn gweithio i sicrhau bod gennym ni Ffair Swyddi Rhan-amser bob semester, datblygu mwy o weithdai sgiliau a hefyd gweithio gydag Alumni i gynnig mwy o gyfleoedd sy'n berthnasol i chi, megis profiad gwaith, interniaethau ac e-diwtoriaid.
- Ystyried gwneud y system Amgylchiadau Arbennig yn haws i'w defnyddio drwy weithio gyda Thiwtoriaid Personol a'r Gwasanaethau Cymorth i
Fyfyrwyr.
- Agor BwrddDu yn ystod cyfnodau dewis modiwlau, fel y gallwch chi weld deunydd cyfredol y modiwlau a gwneud penderfyniadau hysbys parthed y modiwlau y byddwch chi'n eu hastudio'r flwyddyn nesaf.
- Ymgyrchu yn erbyn unrhyw gynnydd mewn ffioedd a sicrhau bod eich llais i'w glywed ar bopeth sy'n ymwneud â ffioedd, gan gynnwys sicrhau nad yw myfyrwyr sy'n ymgymryd â Blynyddoedd Diwydiannol a chynlluniau Erasmus y cael eu hanfanteisio.
Ers i mi ddechrau yng Ngorffennaf, mae'r ychydig fisoedd cyntaf wedi bod yn eithriadol o brysur, ond yn gryn lawer o hwyl. Yr uchafbwynt heb amheuaeth oedd cynadleddau NUS SU17 a'r Talwrn, lle bu cyfle i gwrdd â Swyddogion eraill o wahanol rannau o'r DU, ynghyd â dysgu mwy am y materion hynny sy'n effeithio'n benodol ar fyfyrwyr yng Nghymru, yng ngweddill y DU ac ymhellach.
Os ydych chi am gysylltu â fi, gallwch wneud hynny dwy alw heibio'r Undeb, anfon e-bost ataf (umacademaidd@aber.ac.uk) neu ddod o hyd i mi ar gyfryngau cymdeithasol. Gallwch hefyd fy nilyn i ar Twitter: @AAAberSU i gadw'n gyfoes â'r hyn dwi'n ei wneud o ddydd i ddydd, a hefyd gweld pa bryd ydw i'n cyhoeddi fy niweddariadau misol. Peidiwch ag anghofio hoffi ein tudalen Facebook hefyd: www.facebook.com/TimUMAberSU i gael diweddariadau rheolaidd gen i a'r Swyddogion eraill.
Mae'r amser wedi hedfan ers fy Wythnos y Glas gyntaf 3 blynedd yn ôl, ond dwi'n dal i gofio'r cyfnod hwnnw fel pe bai'n ddoe. Eleni yw fy mhedwaredd Wythnos y Glas, a dwi'n edrych ymlaen at gyfarfod wynebau newydd a dod i'w hadnabod nhw, ac at y Cwis nos Wener. Fy nghyngor i ar gyfer myfyrwyr newydd yw: taflwch eich hun i mewn i bob cyfle! Does dim rhaid i chi ddal at bopeth rydych chi'n rhoi cynnig arno, ond efallai y cewch chi eich synnu gan rai o'r gweithgareddau newydd - gallai fod yn ddechrau rhywbeth llawer mwy. Pan ymgeisiais i i fod yn Gynrychiolydd Academaidd 3 blynedd yn ôl, wnes i erioed ddychmygu y buaswn i yma heddiw yn rôl eich Swyddog Materion Academaidd!
Sicrhewch eich bod yn mwynhau pob eiliad o'ch antur newydd, ac ewch amdani! Croeso i Aberystwyth!