Cyflwyniad i'ch Swyddog Llesiant

blogswyddogmollyofficerblogwelshwellbeing
No ratings yet. Log in to rate.

Croeso i Aber! Neu groeso'n ôl!

Mae'r adeg honno o'r flwyddyn pan fydd myfyrwyr yn dechrau cyrraedd yn ôl, bydd y darlithwyr yn paratoi ar gyfer carfan newydd o fyfyrwyr, a bydd Undeb y Myfyrwyr yn mynd ati i groesawu pawb i Aber gyda digwyddiadau difyr, ffair y glas ac wrth gwrs gwên ar wyneb pawb! (Beth mwy mae unrhyw un eisiau!?)

Felly er mwyn dechrau'r flwyddyn â brwdfrydedd diderfyn, roeddwn i'n meddwl y buaswn i'n cyflwyno fy hun! Fy enw i yw Molly (a dydw i ddim yn alcoholic...) a fi yw'r swyddog llesiant eleni, sef rôl y swyddog lles llynedd. Dwi'n gwneud yn sicr bod y myfyrwyr i gyd mor hapus ac mor iach â phosib, a'n bod ni'n eich darparu chi â'r profiad gorau a'r mwyaf croesawus posib. Dwi'n gweithio ar gydraddoldeb ac amrywioldeb, gan sicrhau bod pob myfyriwr yn cael ei gynrychioli'n gyfartal yn y brifysgol. Dwi'n gweithio gyda'r bwrdd iechyd a diogelwch i sicrhau eich bod chi'n ddiogel ar y campws, a'r rhan gorau o'r swydd yw'r faith fy mod i'n cael gweithio'n uniongyrchol gyda myfyrwyr yn yr hyn fydd, gobeithio, yn ymgyrchoedd anhygoel ac effeithiol eleni!

Roedd rhaid i ni ddechrau'r swydd hon gyda 3 blaenoriaeth, oedd yn eithriadol o anodd! Roeddwn i'n awyddus i wneud popeth, a'i gael wedi'i wneud mewn blwyddyn. Yn anffodus, roedd pawb yn eithaf llym ynglyn â hynny, a bu rhaid i mi eu dethol, felly dyma nhw:

  • Sicrhau bod gennych chi rywle i fynd sy'n gwneud i chi deimlo'n gyfforddus a diogel yn yr UM, sef: Yr Ystafell Llesiant!
  • Lledaenu'r gair am wirio eich corff ac addysgu pobl ynglyn â chanfod cancr yn gynnar!
  • Gwnïo a Chwyno - gweithdy crefftau sy'n seiliedig ar wahanol thema bob mis, i greu celf ond hefyd i roi rhywle i chi gwyno a thuchan, neu i ddathlu'r holl sgiliau crefft sydd gennych chi!

Gan gadw'r rhain mewn cof, rydyn ni wedi bod yn gweithio'n galed dros y ddau fis diwethaf i gael yr Undeb yn barod ar eich cyfer chi, ac ar yr un pryd, rydyn ni wedi bod yn ceisio setlo i lawr fel tîm o swyddogion. A bod y onest, dwi wedi ei chael yn anodd yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, ond yn bennaf oherwydd nad oeddwn i erioed o'r blaen wedi cael profiad o weithio llawn-amser pan nad oedd unrhyw rai o fy ffrindiau'n dal i fod yn Aber. Serch hynny, fel tîm, fe lwyddon ni i ddod i ben â'r sefyllfa a dyma ni, yn gryfach nag erioed ac yn barod ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

Os ydych chi angen cysylltu â fi yn ystod y flwyddyn, dwi ar gael ar suwellbeing@aber.ac.uk neu gallwch chi fy ffonio ar 01970 621741. Dwi yma ar eich cyfer chi, felly os ydych awydd galw heibio am sgwrs, dwi yn y swyddfa'r rhan fwyaf o'r amser oni bai bod gen i gyfarfod. Ta waeth, mae croeso i chi ddod i'n gweld ni yn y coridorau cefn. Dwi'n addo nad ydyn ni'n brathu!

Mwynhewch y flwyddyn a chadwch yn ddiogel! Llawer o gariad <3

Comments

 
There are no current news articles.