Fechgyn a merched Aberystwyth, mae amser cyffrous o'ch blaen, a dwi'n barod i'r cyfan ddechrau!
Mae'r 2 fis diwethaf wedi hedfan ers fy niwrnod cyntaf yn y swydd, gyda chynllunio a hyfforddiant, setlo i mewn a cheisio dod i ddeall yr holl gyfrifoldebau a thasgau sydd o fy mlaen i eleni. Byddwch yn falch o glywed y bydd yr holl ddigwyddiadau rydych chi'n gyfarwydd â nhw'n dychwelyd eleni, a hynny'n fwy ac yn well, ac mae'r dyddiadau ar eu cyfer wedi cael eu gosod. A nawr, dim ond mater o'u cynnal nhw sydd ar ôl. Mae'r tîm cyfleoedd yn aros yn amyneddgar i bawb ddychwelyd!
Mae'n amser am y RhagLas! Dim ond 5 diwrnod sydd tan i'r gwallgofrwydd ddechrau! Dyma un o'r cyfleoedd gorau i recriwtio aelodau ar gyfer eich clybiau a chymdeithasau, a dwi'n dibynnu arnoch chi i ddangos i'r glas-fyfyrwyr beth sy'n digwydd!
Gobeithio bod gennych chi eich posteri lliwgar a'ch taflen arwyddo hen-ffasiwn ar gyfer eich bwrdd yn ffair y glas, a'ch bod yn barod am ffair gyffrous! Un o fy mlaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn yw sicrhau bod myfyrwyr yn ymwybodol o'r hyn mae'r Undeb yn ei wneud ac yn ei ddarparu! Byddaf yn canolbwyntio ar sicrhau bod myfyrwyr yn ymwybodol o'r tîm cyfleoedd a sut gallan nhw helpu clybiau a chymdeithasau gydol y flwyddyn!
Dwi'n methu aros i chi i gyd ddychwelyd a dechrau'r flwyddyn go iawn!
Jess