Cyflwyniad i Swyddog Datblygu'r Undeb

blogswyddogbruceofficerblogwelshuniondevelopment
No ratings yet. Log in to rate.

Beth yw dy rôl yn UMAber?

Fi yw Swyddog Datblygu'r Undeb. (yn flaenorol, rôl y Llywydd)

Beth yw dy flaenoriaethau?

Gwella enw da Undeb y Myfyrwyr, sicrhau nawdd ar gyfer Chwaraeon a Chymdeithasau a gwella sut mae Undeb y Myfyrwyr yn defnyddio cyfryngau digidol i ryngweithio â myfyrwyr a busnesau lleol. 

Ym mha ffordd wyt ti'n cynrychioli myfyrwyr Aber eleni?

Dwi'n perthyn i amryw o bwyllgorau'r Brifysgol, megis Cyngor y Brifysgol, y Senedd a sawl is-bwyllgor eraill, sydd i gyd yn bwydo i mewn i'r Cyngor.

Sut mae dy ychydig fisoedd cyntaf wedi mynd?

Dwi wedi bod yn eithriadol o brysur gyda'r holl waith baratoi ar gyfer cael yr Undeb yn barod ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Dwi'n teimlo bod y lle wedi gwella'n sylweddol eisoes, ac mae'n deimlad cyffrous gweld pethau'n dal i wella dros y misoedd nesaf. J

Sut all myfyrwyr gysylltu â ti?

Drwy e-bost, Twitter, Facebook; dwi'n ceisio bod mor weithredol â phosib ar-lein, felly os oes gennych chi gwestiwn, mae croeso i chi anfon neges ataf. Gallwch hefyd ddod draw i'r swyddfa i fy ngweld os nad ydw i wedi ymateb ar-lein. J

Oes gen ti unrhyw hintiau handi ar gyfer gwneud ffrindiau yn ystod cyfnod y glas?

Os ydych chi mewn neuadd breswyl, cadwch eich drws ar agor, helpwch eich cyd-letywyr newydd i symud i mewn, cofiwch eich bod chi ar fin treulio blwyddyn gyda nhw.
Ymunwch â chlwb/cymdeithas, mae'n syml!
Cyflwynwch eich hun i'r bobl sy'n byw drws nesaf, dydych chi byth yn gwybod pryd fyddwch chi angen benthyg rhywbeth.

Beth yw eich atgofion gorau o'r glas?

Ha Ha! Atgofion?!

At beth wyt ti’n edrych ymlaen ato fwyaf eleni?

Y Cwis Mawr, Ffeiriau'r Glas a chael y myfyrwyr i gyd yn ôl yn Aber.

Pa gyngor fyddet ti'n ei gynnig i fyfyrwyr newydd?

Prynwch got-law safonol, mae'n sicr o lawio, cryn lawer. Peidiwch â phrynu llwyth o lestri, mae'n bur debyg na fyddwch chi'n defnyddio mwy nag un plat/bowlen ac un set o gyllyll a ffyrc. Byddwch yn ymwybodol o'ch ffiniau personol pan fyddwch chi'n mynd allan, ac wrth gwrs mwynhewch eich hunain!

Comments

 
There are no current news articles.