Lleddfu Straen yr Arholiadau

officerblogwelsh
No ratings yet. Log in to rate.

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod LinkedIn Learning, adnodd E-ddysgu a ddarperir gan drydydd parti, bellach ar gael yn rhad ac am ddim i holl staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth! 

Oherwydd hyn, rydym wedi creu rhestr o’r adnoddau Linkedin sydd ar gael roeddem yn meddwl y byddai o help yn ystod lleddfu straen arholiadau Ionawr. Mae yna ystod o fideos, cyrsiau ac adnoddau clywedol: 

  1. Sleep is your Superpower (34 minutes) (course
  2. De-stress meditation and movement for stress management (36 minutes) (course
  3. Winding Down: Get a Better Night’s Sleep (53 minutes) (course
  4. Overcoming procrastination (24 minutes) (course
  5. How to manage feeling overwhelmed (43 minutes) (course
  6. Introduction to Gratitude Meditation (12 minutes) (audio
  7. What is mindfulness (7 minutes 8 seconds) (audio
  8. Time Management Tips for students (2 minutes 59 seconds) (short video
  9. Creating a study plan (1 minutes 59 seconds) (short video
  10. Taking strategic breaks while studying (2 minutes 14 seconds) (short video

Mae Sioned, Swyddog Galluoedd Digidol y Brifysgol, wedi creu y post blog hwn ‘Adnoddau Linkedin Learning i'ch helpu paratoi ar gyfer eich arholiadau’. Yn anfoddus, gan fod Linked Learning yn drydydd parti, nid yw’r cyrsiau ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd. 

Rydym yn dymuno pob lwc i chi ar gyfer yr asesiadau i ddod ac yn gobeithio bod yr adnoddau hyn yn ddefnyddiol.


I gael mwy o wybodaeth am Linkedin Learning yn gyffredinol, gweler isod: 

Beth yw LinkedIn Learning?

Mae gan y llwyfan dysgu ar-lein hwn lyfrgell ddigidol helaeth o gyrsiau a fideos byr dan arweiniad arbenigwyr; mae’r rhain yn amrywio o gyrsiau busnes i gynnwys creadigol a thechnolegol. Gallwch felly ei ddefnyddio i ddatblygu eich sgiliau proffesiynol, i ddysgu meddalwedd newydd, ac i archwilio meysydd eraill wrth i chi gynllunio ar gyfer datblygiad personol, academaidd a thwf eich gyrfa.

Dechrau arni 

Mae LinkedIn Learning ar gael 24/7 o’ch cyfrifiadur neu ddyfais symudol. Ewch i LinkedIn Learning a mewngofnodwch gyda’ch enw defnyddiwr a’ch cyfrinair Prifysgol Aberystwyth. Gellir dod o hyd i gyfarwyddiadau mewngofnodi yma

Dilynwch y fideo hwn i ddysgu sut i ddechrau arni gyda LinkedIn Learning. 

Gwybodaeth bellach

Os cewch unrhyw anawsterau wrth fewngofnodi i LinkedIn Learning, cysylltwch â Gwasanaethau Gwybodaeth (gg@aber.ac.uk). 
 
Ar gyfer unrhyw ymholiadau cyffredinol eraill am LinkedIn Learning, cysylltwch â’r Swyddog Galluoedd Digidol (digi@aber.ac.uk). Gallwch hefyd ymweld â’r tudalennau Cwestiynau Cyffredin LinkedIn Learning

Comments