Dyma'r drydedd noson wobrwyo, a'r olaf, o'r wythnos; cynhaliwyd ein Gwobrau Addysgu blynyddol, a elwir bellach yn 'Gwobrau UMAber yn Dathlu Staff a Myfyrwyr', ar nos Iau, 26ain Ebrill yn y Neuadd Fawr. Roedd yn gyfle i UMAber ddathlu a diolch i aelodau staff, cynrychiolwyr myfyrwyr, gwirfoddolwyr ac adrannau eithriadol sy'n gwneud Aberystwyth yn wirioneddol wych.
Caiff pawb sy'n cyrraedd y rhestr fer a hefyd yr enillwyr, eu dethol gan fyfyrwyr Aberystwyth - mae'r holl broses, o'r enwebiad i'r cyflwyniad, dan arweiniad myfyrwyr.
Derbyniwyd 238 o enwebiadau ar gyfer y gwobrau, sydd bellach yn eu 7fed blwyddyn. Roeddent yn amrywio o fyfyrwyr yn enwebu eu darlithwyr i gyd-fyfyrwyr yn enwebu eu cynrychiolwyr academaidd.
Roedd pymtheg o gategorïau yn y gwobrau dysgu eleni, yn cydnabod staff, gwirfoddolwyr a chynrychiolwyr academaidd mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd ar draws y brifysgol.
Enillwyr eleni oedd:
Gwobr Cam Nesaf
Arwyn Edwards (IBERS)
Gwobr Addysgu Arloesol
Val Nolan (English and Creative Writing)
Swyddog Gwirfoddol y Flwyddyn
Megan Hatfield (Llanbadarn Campus Officer)
& Ammaara Nalban (BAME Students Officer)
Athro Ôl-raddedig y Flwyddyn
Deborah Kobani (Y Gyfraith)
Goruchwyliwr y Flwyddyn - Ôl-raddedig
Berit Bliesemann de Guevara & Milja Kurki (International Politics)
Goruchwyliwr y Flwyddyn – Israddedig
Simon Payne (IBERs)
Gwobr Arwyr yr Etholiad
Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd / Welsh and Celtic Studies
Gwobr Adborth Eithriadol
Alexandros Koutsoukis (International Politics)
Mentor y Flwyddyn o blith y Myfyrwyr
Dana Barringham (IBERS)
Tiwtor Personol y Flwyddyn
Rachel Rahman (Psychology)
Hyrwyddwr yr Iaith Gymraeg
James January-McCann (Y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd)
Myfyriwr Wirfoddolwr y Flwyddyn
Geena Whiteman (School of Business)
Aelod Staff Cymorth / Gwasanaeth y Flwyddyn
Stephen Fearn (Physics)
Cynrychiolydd Academaidd y Flwyddyn
Sabrina Mangham (International Politics)
Darlithydd y Flwyddyn
Matthew Jarvis (English and Creative Writing)
Adran y Flwyddyn
Mathematics
Llongyfarchiadau i bawb fu yn rhan o’r digwyddiad mewn unrhyw ffordd, y rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer a’r ennillwyr.
Bydd lluniau swyddogol y noson ar gael ar dudalen Facebook UMAberSU yn fuan felly cadwch lygad allan amdanynt a tagiwch eich hun / eich adran yn y lluniau.