I'r mwyafrif helaeth bydd y canlyniadau arholiadau Ionawr yn amser i ddathlu gwaith caled, fodd bynnag, mae'n bosib y bydd yn amser pryderus i rai.
Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynglyn â'ch canlyniadau ar ôl i Fwrdd Gradd Ymchwil neu Fwrdd Arholi Senedd y Brifysgol wneud eu penderfyniad, neu os ydych chi'n teimlo bod eich canlyniadau wedi cael eu heffeithio gan broblemau ar y cwrs neu oherwydd materion personol, yna mae'n bosib y byddwch yn gallu gwneud cais am Apêl Academaidd.
Os ydych chi'n teimlo eich bod wedi cael eich anfanteisio mewn unrhyw ffordd yn ystod eich astudiaethau, a bod hyn yn cael ei adlewyrchu yn eich canlyniadau, yna mae'n bosib bod gennych sail ar gyfer apêl academaidd.
I israddedigion, mae tri phrif sail ar gyfer apêl, sef y canlynol:
- Amgylchiadau personol sydd wedi cael effaith niweidiol ar eich astudiaethau academaidd;
- Gwallau neu anghysondebau yn y modd y cynhaliwyd yr asesiad neu yn y cyfarwyddiadau ysgrifenedig neu gyngor a roddwyd;
- Tystiolaeth o ragfarn, neu duedd, neu asesiad annigonol ar ran un neu fwy o'r arholwyr.
I ôl-raddedigion ymchwil, mae sail ychwanegol:
- Tystiolaeth bod yr oruchwyliaeth a ddarparwyd yn annigonol a bod rhesymau eithriadol pam nad yw'r myfyriwr wedi dwyn sylw at hyn cyn penderfyniad y Bwrdd Arholi.
Cofiwch: Ni fydd y Brifysgol yn derbyn apêl os eich unig bryder yw'r ffaith eich bod yn anghytuno â 'barn academaidd' y marcwyr neu'r Bwrdd Arholi.
Cofiwch: Y ffin amser arferol ar gyfer myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedigion a addysgir yw 10 diwrnod gwaith, ac 20 diwrnod gwaith ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig ymchwil.
Am ragor o wybodaeth am y broses apelio, gallwch edrych ar ein canllaw ar-lein neu gysylltu â Gwasanaeth Cynghori rhad ac am ddim, annibynnol a chyfrinachol yr Undeb trwy e-bostio undeb.cyngor@aber.ac.uk.