Ystafell Cwn

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Waw fyfyrwyr Aber – roedden ni’n gwybod eich bod chi’n dwli ar gwn, ond doedden ni ddim yn disgwyl cael £900 o roddion yn ystafell anwesu cwn Paws for Thought. Bydd yr arian hwn yn cael ei anfon yn syth at Alpet Poundies Rescue a bydd yn mynd at gyllido’r gwaith anhygoel maen nhw’n ei wneud o ran achub cwn a chanfod cartref newydd iddyn nhw. Mae Alpet Poundies wedi dweud diolch am eich haelioni, gan ychwanegu ‘Does dim syniad gennych chi pa mor werthfawr yw hyn i ni ar hyn o bryd. Gobeithio mwynhaodd y myfyrwyr y cwn – Un fantais, y cyfan dwi’n clywed y cwn yn ei wneud yw chwyrnu.’

Comments