Wythnos Myfyrwyr yn Gwirfoddoli – Rhoi goleuni ar wirfoddolwyr UM Aber #3

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

#SVW2018 #GwirfoddoliAber

Mae gan Undeb y Myfyrwyr 10 o gynrychiolwyr athrofa (rolau gwirfoddol). Myfyrwyr yw'r rhain sydd wedi cael eu hethol gan eu cyd-fyfyrwyr o fewn eu Hathrofa i adborthi eu barn academaidd i'r Athrofa, y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr. Eleanor Furness yw cynrychiolydd presennol IBERS.

Pam dwi'n gwirfoddoli: Dwi'n mwynhau cyfrifoldeb a helpu eraill a dwi am fod yn llais fy nghyfoedion, yn enwedig i'r rheiny sy'n methu â mynegi eu barn. Hefyd, roeddwn i am wella fy sgiliau proffesiynol, datblygu hyder a phrofiad.

Yr hyn dwi'n ei wneud: Dwi'n cynrychioli materion a buddiannau academaidd cyd-fyfyrwyr. Dwi'n mynychu cyfarfodydd PYSM i roi adborth ac i helpu i ddod o hyd i atebion. Dwi'n mynychu'r fforymau dysgu ac addysgu, sy'n wych gan fy mod i'n cael bod yn rhan o drafodaethau'r staff a gweld yr hyn sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni. Dwi hefyd yn rhoi cymorth i'r cynrychiolwyr academaidd yn fy athrofa yn eu rolau ac yn dod â'r holl adborth at ei gilydd.

Manteision gwirfoddoli: Fel cynrychiolydd athrofa, cewch lawer mwy o gyfleoedd i gymryd rhan yn eich addysg. Rydych chi'n cynrychioli'ch cyfoedion, yn helpu i greu newidiadau yn eich cwrs, byddwch chi'n dysgu sgiliau newydd ac yn magu hyder ac mae'n wych i'w roi ar eich CV. Mae wedi fy helpu i greu cysylltiadau newydd a chael rolau newydd hefyd! Mae'n wych bod yn berson y gall pobl eraill ddibynnu arno a chreu newid. Roeddwn i mor hapus, penderfynais i fynd amdani! 

Diolch i Ellie a'n cynrychiolwyr athrofa eraill am eich holl ymdrechion eleni! Os hoffech chi wybod pwy yw ein cynrychiolwyr athrofa presennol, ewch i https://www.umaber.co.uk/llywioaber/cynrychiolwyrmyfyrwyr/cynrychiolwyrathronfa/

Mae etholiadau ar y gorwel, felly os ydych chi'n frwd dros eich profiad academaidd a chynrychioli'ch cyfoedion, efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn ymgymryd â rôl cynrychiolydd athrofa. Bydd y cyfnod sefyll yn gorffen am hanner nos, ddydd Lun 26 Chwefror. 

I gael gwybod mwy ewch i https://www.umaber.co.uk/llywioaber/etholiadau/

Comments