Sut mae ysgrifennu enwebiad gwych…

Rydych chi wedi gweld y posteri, rydych chi'n gwybod bod gennych chi diwtor sy'n eich ysbrydoli, a nawr rydych chi am ei enwebu am Wobr Ddysgu UMAber… ond sut mae esbonio pam mae ef/hi'n anhygoel a pham ddylai ennill?

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Rydych chi wedi gweld y posteri, rydych chi'n gwybod bod gennych chi diwtor sy'n eich ysbrydoli, a nawr rydych chi am ei enwebu am Wobr Ddysgu UMAber… ond sut mae esbonio pam mae ef/hi'n anhygoel a pham ddylai ennill?

Mae enwebiad da yn golygu esbonio'r hyn sy'n gwneud i'r person rydych chi'n ei enwebu sefyll allan o'r dorf; yr hyn sy'n ei wneud yn ardderchog a sut cafodd effaith arnoch chi.

Dyma'n cyngor ni ar ysgrifennu enwebiad gwych.

  • Darllenwch y “print mân”: Sicrhewch eich bod chi'n darllen meini prawf y gwobrau ac yn dewis y categori sydd fwyaf addas. Wrth gwrs, cewch enwebu un person neu adran gyfan am sawl categori ond cofiwch eu teilwra yn hytrach na chopïo a gludo.
  • Mae'r holl enillwyr yn gydradd ar y noson: Yn gyffredinol, gwobrau fel darlithydd y flwyddyn, tiwtor personol y flwyddyn ac adran y flwyddyn fydd yn denu'r mwyaf o enwebiadau, sy'n ei gwneud hi'n anoddach fyth i gydnabod ein holl staff anhygoel, felly meddyliwch yn ofalus a oes gwell siawns ganddyn nhw mewn categori arall.
  • Pwy, beth, pam: Rhowch wybod i ni pwy rydych chi'n enwebu a pham.
  • Byddwch yn benodol: A wnaeth e/hi eich ysbrydoli chi gyda'u brwdfrydedd am eich pwnc, eich helpu i ddod yn ymwybodol o'ch sgiliau eich hunain, neu fynd y filltir ychwanegol pan oedd hi'n gyfnod caled…dwedwch y cyfan wrthym ni.
  • Beth sy'n eu gwneud nhw'n wych?: Rhannwch eu nodweddion! Ai eu menter, creadigrwydd, gwybodaeth, gwerthoedd, ymagwedd neu ofal a gymeron nhw mewn sefyllfa sy'n haeddu cydnabyddiaeth? Defnyddiwch gymaint o enghreifftiau â phosib a chofiwch nad pam rydych chi'n meddwl maen nhw'n wych sy'n bwysig ond sut gwnaethon nhw wahaniaeth.
  • Byddwch yn blwmp ac yn blaen: Esboniwch y gwahaniaeth mae'r darlithydd, cynrychiolydd neu aelod staff hwn wedi'i wneud i chi. Gawsoch chi eich ysbrydoli i wneud cais am Feistr wedi'i ariannu? A leision nhw eich barn a helpu creu newid yn eich cwrs? Oedd eu hagwedd gadarnhaol yn ffactor a ysgogoch chi i orffen eich gradd neu thesis?
  • Byddwch yn brydlon: Cyflwynwch eich enwebiad cyn y dyddiad cau (12 Mawrth).
  • Gorau po fwyaf: Cofiwch nad oes cyfyngiadau ar sawl unigolyn / adran y cewch chi eu henwebu na sawl categori y gallwch eu henwebu nhw ar eu cyfer.

Dyw ysgrifennu enwebiad gwych ddim yn anodd. Dwedwch pam yn union mae rhywun yn haeddu ennill, gydag enghreifftiau i'w gadarnhau, a dwedwch wrthym ni sut maen nhw wedi gwneud i'ch profiad fod yn arbennig.

Felly, treuliwch amser yn meddwl ac enwebwch!

Comments