Adeg honno o'r flwyddyn yw hi eto pan mae sïon ar led ynglyn â phwy sy'n sefyll am beth a'r mae'r cyffro'n dechrau codi o gwmpas y campysau. Yna bydd sialc, baneri, taflenni yn ogystal â fideos a grwpiau Facebook yn ymddangos. P'un ai'ch bod chi'n ymgeisydd neu'n bleidleisiwr, dylech chi dreulio amser yn ystyried bod yn rhan.

Ni fu adeg well erioed i ddylanwadu ar ddyfodol yr Undeb a'r Brifysgol. Rydyn ni ar fin dechrau cynllun newydd ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod a fydd yn edrych ar ba wasanaethau rydych chi am i ni eu cynnal yn ogystal â sut dylen ni eu cynnal.
Yn ystod yr wythnosau nesaf, byddwch chi'n gweld digon o bwyslais ar y pum swyddog llawn amser a gaiff eu talu i gynrychioli myfyrwyr flwyddyn nesaf. Cewch fod yn rhan o'r newid o hyd wrth astudio drwy sefyll i fod yn un o'n swyddogion rhan amser neu ein cynrychiolydd athrofa.
I sefyll yr etholiad, ewch i www.umaber.co.uk/etholiadau a chwblhewch y ffurflen ar-lein erbyn 4pm ddydd Mawrth 28 Chwefror. Os dim ond pleidleisio hoffech chi ei wneud, cewch wneud hynny gan ddefnyddio'r un ddolen rhwng dydd Llun 13 a dydd Gwener 17 Mawrth.
Os hoffech chi fwy o gyngor neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni ar undeb.etholiadau@aber.ac.uk.
Eich prifysgol chi yw hi felly ffurfiwch ei dyfodol. Mae eich llais chi'n bwysig!