SEFWCH NAWR! Etholiadau 2018

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Er nad oes llawer o amser wedi mynd heibio ers dechrau newydd blwyddyn arall, mae'n bleser gennym gyhoeddi bod cyfnod sefyll ar gyfer Etholiadau Mawrth yr UM nawr ar agor.

Buan iawn y bydd hi'r adeg honno o'r flwyddyn eto pan mae sïon ar led ynglyn â phwy sy'n sefyll am beth, ac mae'r cyffro'n dechrau codi o gwmpas y campysau. Yna bydd sialc, baneri, taflenni yn ogystal â fideos a grwpiau Facebook yn ymddangos. Boed fel ymgyrchydd neu fel pleidleisiwr, dylech dreulio amser yn ystyried cyfranogi, a does dim amser gwell na chyn i'r tymor newydd ddechrau.

Ni fu adeg well erioed i ddylanwadu ar ddyfodol yr Undeb a'r Brifysgol. Rydyn ni ar fin dechrau cynllun newydd ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod a fydd yn edrych ar ba wasanaethau rydych chi am i ni eu cynnal yn ogystal â sut dylen ni eu cynnal.

Yn ystod y misoedd nesaf, byddwch chi'n gweld digon o bwyslais ar y pum swyddog llawn amser a gaiff eu talu i gynrychioli myfyrwyr flwyddyn nesaf. Cewch fod yn rhan o'r newid o hyd wrth astudio drwy sefyll i fod yn un o'n Swyddogion Gwirfoddol, yn Gynrychiolydd Athrofa neu'n Fyfyriwr Ymddiriedolwr.

I sefyll yn yr etholiad, ewch i www.umaber.co.uk/etholiadau a chwblhewch y ffurflen ar-lein erbyn 4pm ddydd Llun 26 Chwefror. Os mai pleidleisio yw'r cyfan rydych chi am ei wneud, cewch wneud hynny ar ApAber neu drwy ddefnyddio'r ddolen a gaiff ei he-bostio atoch rhwng dydd Llun 12 a dydd Gwener 16 Mawrth.

 

Os hoffech chi gael mwy o gyngor neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni ar undeb.etholiadau@aber.ac.uk.

Eich prifysgol chi yw hi felly ffurfiwch ei dyfodol. Mae eich llais chi'n bwysig!

Comments