Newid i system aelodaeth UMCA!

gwionofficerblogwelshwelshwelshcultureandumca
No ratings yet. Log in to rate.

Mi fydd pob myfyriwr sydd yn siarad Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cael ei ymaelodi heb ohebiaeth y flwyddyn yma i UMCA. Drwy gyd-weithrediad a’r Brifysgol, mi fydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth yn gallu cynnig aelodaeth am ddim eleni.

Y gobaith o hyn yw gwneud yn siwr fod UMCA ar agor i holl fyfyrwyr Cymraeg a bydd yn caniatáu i’r gymdeithas Gymraeg ehangu.

Dywedodd llywydd UMCA, Gwion Llwyd Williams, fod hyn yn symudiad datblygol i’r Undeb  - “Teimlaf fod hyn yn gyfnod cyffrous iawn i’r Undeb wrth edrych ymlaen at y flwyddyn academaidd i ddod. Mae’n bwysig bod yr holl fyfyrwyr Cymraeg mewn undod, a bydd hyn yn galluogi i’r Undeb ehangu a datblygu am y blynyddoedd i ddod.

Mae’n bwysig bod y gymdeithas Gymraeg yn cryfhau erbyn i Bantycelyn ail-agor fel llety cyfrwng Cymraeg yn 2019 i wneud defnydd mawr o’r neuadd. Fydd hyn wir yn caniatáu hyn, ac rwyf yn edrych ymlaen at gael y cyfle i gynnal a rhedeg UMCA eleni.”

Mae Gwion yn brysur yn paratoi Wythnos y Glas UMCA, a fydd yn croesawu’r holl aelodau presenol yn ôl ac yn rhoi croeso cynnes i’r glasfyfyrwyr newydd. Bydd nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ar hyd yr wythnos i’r aelodau.

Ewch draw at dudalen Facebook UMCA am fwy o wybodaeth am yr wythnos. 

 

Comments