Yn y cyfnod sy'n arwain at ei dyddiad cychwyn, mae Undeb y Myfyrwyr yn gofyn i fyfyrwyr beth yw'r tri pheth maen nhw am eu dweud wrth yr Athro Treasure yn ystod ei misoedd cynnar fel Is-ganghellor newydd y Brifysgol.
Tua dechrau mis Ebrill, bydd Prifysgol Aberystwyth yn croesawu'r Athro Elizabeth Treasure fel yr Is-ganghellor newydd.
Yn y cyfnod sy'n arwain at ei dyddiad cychwyn, mae Undeb y Myfyrwyr yn gofyn i fyfyrwyr beth yw'r tri pheth maen nhw am eu dweud wrth yr Athro Treasure yn ystod ei misoedd cynnar fel Is-ganghellor newydd y Brifysgol.
Yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf, byddwn yn gofyn i chi am eich awgrymiadau, yn ogystal â rhannu rhai ein Swyddogion Llawn-amser, â'r nod o gyflwyno'r rhain yn gynnar yn ei chyfnod sefydlu.
Unwaith eto, mae'r Athro Treasure wedi bod yn ddigon caredig i gytuno i fynychu sesiwn cwestiwn ac ateb ar 3 Ebrill ym Mhrif Ystafell Undeb y Myfyrwyr, lle rydyn ni'n gobeithio cyflwyno rhai o'r blaenoriaethau a awgrymwyd ar gyfer ystyriaeth ganddi hi.
I gyflwyno'r hyn rydych chi am ei ddweud, cliciwch y ddolen/botwm isod ac ewch ati i gwblhau ffurflen fer...
https://www.surveymonkey.co.uk/r/HolirIG