Holi'r IG? Blaenoriaethau Rhun

Nesaf, mae eich Swyddog Materion Cymreig, Rhun...

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Fel rhan o'n hymgynghoriad 'Holi'r IG?' yn ogystal â gofyn am eich barn, byddwn hefyd yn rhannu syniadau ein swyddogion llawn-amser, er mwyn i chi gael gwybod beth fydd y sgyrsiau fyddwn ni'n eu cael yn ystod y misoedd nesaf gyda'r Is-ganghellor newydd. Nesaf, mae eich Swyddog Materion Cymreig, Rhun...

  1. Ailagor Pantycelyn wedi'i adnewyddu erbyn 2019; "Mae Pantycelyn yn hanfodol bwysig i ffyniant y gymuned Gymraeg yn y brifysgol. Mae'n hollbwysig i'r brifysgol, yr iaith a Chymru fel canolbwynt i ddiwylliant Cymraeg. Mae'r gymuned sy'n bodoli ym Mhantycelyn yn gwbl unigryw, ac mae wedi meithrin gwleidyddion, cerddorion ac unigolion dylanwadol o bob cwr o Gymru. Rydyn ni eisoes wedi gweld effaith cau'r neuadd gyda llai o fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith yn penderfynu dod i Aber, ynghyd â dirywiad yn rhai o brif draddodiadau'r adeilad megis Aelwyd Pantycelyn yn ei chael yn anodd o ran niferoedd y cor."
  2. Y ddarpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg; "Gan edrych tua dyfodol y Brifysgol, credaf ei bod yn hanfodol bwysig bod y Brifysgol yn darparu addysg Gymraeg gynhwysol. Mae'r iaith wrth galon y Brifysgol, ac os ydyn ni am weld Aberystwyth yn datblygu, credaf ei bod yn bosib i ni arwain Cymru fel prif ddarparydd addysg Gymraeg. Ar raddfa ehangach, bydd strategaeth y Coleg Cymraeg a Llywodraeth Cymru'n golygu mwy o gefnogaeth ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg, a dylai Aberystwyth fanteisio ar y gefnogaeth honno.
  3. Mae clybiau a chymdeithasau'n rhan annatod o fywyd myfyrwyr yn Aberystwyth: "Mae'n ffordd wych o gael myfyrwyr i gyfranogi yng ngweithgareddau'r undeb, ac mae'r profiadau a ddaw yn sgil bod yn rhan o glwb neu gymdeithas yr un mor bwysig â'r profiad sydd i'w gael o astudio.

I gyflwyno'r hyn rydych chi am ei ddweud, cliciwch y ddolen/botwm isod ac ewch ati i gwblhau ffurflen fer...

https://www.surveymonkey.co.uk/r/HolirIG

Comments