Holi'r IG? Blaenoriaethau Naomi

Nesaf, mae eich Swyddog Lles, Naomi...

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Fel rhan o'n hymgynghoriad 'Holi'r IG?' yn ogystal â gofyn am eich barn, byddwn hefyd yn rhannu syniadau ein swyddogion llawn-amser, er mwyn i chi gael gwybod beth fydd y sgyrsiau fyddwn ni'n eu cael yn ystod y misoedd nesaf gyda'r Is-ganghellor newydd. Nesaf, mae eich Swyddog Lles, Naomi...

  1. Yn ystod fy mlwyddyn gyntaf yn y brifysgol, fe wynebais sefyllfa wirioneddol anodd gydag un o fy nghyd-letywyr, oedd â phroblemau iechyd meddwl difrifol. O ganlyniad i hyn, bu rhaid galw am heddlu arfog, ac wynebodd fy nghyd-letywr y posibilrwydd o gael ei arestio; cynhaliwyd cyfweliadau gan yr heddlu a chollwyd cryn lawer o gwsg.   Mae'n dda gen i ddweud bod y sefyllfa wedi cael ei datrys, ac ni arestiwyd fy nghyd-letywr, ond nid oedd y ffordd y deliwyd â'r sefyllfa gan staff y brifysgol yn briodol. Pe bai nhw'n gwybod sut i ymateb yn effeithiol i sefyllfa o'r fath yn y lle cyntaf, yna ni fyddai rhaid i ni fod wedi wynebu'r straen ychwanegol o ymchwiliad gan yr heddlu, a chyfaill bron â chael ei arestio ar gam. Credaf nad oes gan staff rheng flaen y brifysgol yr hyfforddiant angenrheidiol i ymdrin â sefyllfaoedd argyfwng, a dydy hynny ddim yn ddigon da.
  2. Mae bod yn rhan o gymdeithas wedi bod o fudd aruthrol i fy ngyrfa yn y brifysgol; roeddwn i'r Llywydd cymdeithas Tickled Pink yn fy nhrydedd flwyddyn, oedd yn golygu i mi gael y cyfle i weithio ynghyd ag elusen genedlaethol fel llysgennad. Nid yn unig oedd hwn yn fodd o wella fy rhagolygon ar gyfer canfod swydd a chyfle i ddysgu amryw o sgiliau newydd, golygodd fy mod i'n rhan o un gymuned fawr o glybiau a chymdeithasau, oedd yn gyfle i greu rhai o atgofion gorau fy mywyd a dod i adnabod ffrindiau am oes. Heb y gymdeithas hon, mae'n sicr na fuaswn i wedi mwynhau fy amser yn Aberystwyth cymaint ag y gwnes i. Ar un pwynt, roeddwn yn cael y fath anawsterau â fy iechyd meddwl, nes i mi ystyried gadael y brifysgol yn gyfangwbl, ond y gymdeithas oedd yn gyfrifol am fy annog i aros.
  3. Er fy mod i'n gwerthfawrogi fy amser yn Aberystwyth, mae'n anodd peidio meddwl bod llawer o staff y brifysgol, yn arbennig y staff uwch, yn malio mwy am wneud arian a chael myfyrwyr i mewn drwy'r drws na maen nhw am yr addysg a gwerth yr unigolyn. Pan ydych chi'n talu £9,000 y flwyddyn am eich addysg, rydych yn disgwyl gallu cyfranogi'n llawn ym mhopeth sydd gan y brifysgol i'w gynnig heb orfod talu mwy fyth yn ychwanegol i hynny. Roeddwn i'n awyddus iawn i roi cynnig ar gampau newydd a chymryd rhan mewn digwyddiadau enfawr megis Superteams, ond yn anffodus, methais allan ar y rhain oherwydd y rhwystr o £49 y flwyddyn oedd yn fy atal rhag cael mynediad i'r chwaraeon hyn. Roedd yn ddewis rhwng rhoi cynnig ar weithgareddau newydd neu gadw to uwch fy mhen. Buaswn wrth fy modd gweld mwy o ddiwylliant prifysgol lle mae'r staff uwch yn malio am y myfyrwyr yn hytrach na'u gweld nhw fel rhifau ac fel cwsmeriaid.

I gyflwyno'r hyn rydych chi am ei ddweud, cliciwch y ddolen/botwm isod ac ewch ati i gwblhau ein ffurflen fer...

https://www.surveymonkey.co.uk/r/HolirIG

Comments