Yn gyntaf, dyma eich Llywydd, Lauren...
Fel rhan o'n hymgynghoriad 'Holi'r IG?' yn ogystal â gofyn am eich barn, byddwn hefyd yn rhannu syniadau ein swyddogion llawn-amser, er mwyn i chi gael gwybod beth fydd y sgyrsiau fyddwn ni'n eu cael yn ystod y misoedd nesaf gyda'r Is-ganghellor newydd. Yn gyntaf, dyma eich Llywydd, Lauren...
- Mae bod yn y Brifysgol yn fusnes costus i fyfyrwyr, ac mae'n eglur ynghyd â'u ffioedd dysgu, bod rhaid iddynt dalu llawer o gostau ychwanegol, neu gostau nad oedden nhw'n gwybod amdanynt cyn iddyn nhw ddechrau. Er enghraifft, mae myfyrwyr yn talu am argraffu, am fynd ar deithiau maes, am barcio ar y campws, am gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol, am brynu deunyddiau ar gyfer y cwrs a llawer mwy. Buaswn wrth fy modd pe bai ein His-ganghellor newydd yn mynd i'r afael â rhai o'r costau hyn ac yn lleihau'r baich ar fyfyrwyr.
- Cyn i mi ddod i Aberystwyth, doeddwn i ddim yn gwybod gair o Gymraeg, a doeddwn i ddim yn deall unrhyw beth am ddiwylliant Cymreig. Mae gan Aberystwyth dreftadaeth Gymreig gref, ond credaf fod hyn weithiau'n gadael yr iaith Gymraeg ar ôl. Nid yw'r deunyddiau i gyd yn ddwyieithog, ni all y rheiny sy'n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg gyflwyno gwaith drwy TurnItIn, ac mae ein neuadd breswyl Gymraeg wedi cael ei chau. Dwi am weld ymrwymiad cryf gan yr Is-ganghellor newydd i'r Gymraeg a'r diwylliant Cymreig, a hefyd ei bod yn deall beth mae Pantycelyn yn ei olygu i fyfyrwyr, a'i bod yn gefnogol i ail-agor y neuadd.
- Pan oeddwn i'n fyfyriwr, ymunais â'r clwb Badminton, oedd yn gyfle i mi gwrdd â chriw o ffrindiau anhygoel yn ogystal â llacio'r tyndra sy'n gysylltiedig ag astudio. Ond bob blwyddyn, gwelais ein cyfleusterau'n dirywio. Yn gyntaf, gwelwyd lwmp ar lawr y Gawell Chwaraeon ar un cwrt, a ledaenodd ar draws tri erbyn diwedd y flwyddyn; mae nawr yn effeithio ar bum cwrt allan o chwech. Nid yw'n ddiogel chwarae yno, ac mae myfyrwyr yn talu cryn lawer o arian i gyfranogi mewn chwaraeon yn Aber. Credaf os yw myfyrwyr Aber yn mynd i ragori a chynrychioli Tîm Aber ar eu gorau, yna rhaid buddsoddi yn ein cyfleusterau chwaraeon tu hwnt i'r gampfa, fel y gall myfyrwyr oll gyfranogi'n ddiogel.
I gyflwyno'r hyn rydych chi am ei ddweud, cliciwch y ddolen/botwm isod ac ewch ati i gwblhau ein ffurflen fer...
https://www.surveymonkey.co.uk/r/HolirIG