Nesaf, mae eich Swyddog Gweithgareddau, Jasmine...
Fel rhan o'n hymgynghoriad 'Holi'r IG?' yn ogystal â gofyn am eich barn, byddwn hefyd yn rhannu syniadau ein swyddogion llawn-amser, er mwyn i chi gael gwybod beth fydd y sgyrsiau fyddwn ni'n eu cael yn ystod y misoedd nesaf gyda'r Is-ganghellor newydd. Nesaf, mae eich Swyddog Gweithgareddau, Jasmine...
- Pe na bai am fy nhîm chwaraeon (Nofio a Pholo Dwr) buaswn wedi gadael y brifysgol yn fy mlwyddyn gyntaf. Serch hynny, nid yw'r cyfleusterau o safon dderbyniol a chânt eu blaenoriaethu gan y ganolfan chwaraeon ar gyfer defnydd gan y cyhoedd, sy'n syniad chwithig o ystyried mai cyfleusterau'r brifysgol ydyn nhw - oni ddylai myfyrwyr y brifysgol gael blaenoriaeth?
- Dwi wrth fy modd cyfranogi mewn grwpiau myfyrwyr a chwrdd pobl sydd â'r un diddordebau â fi, ond dydw i ddim yn gallu fforddio talu i ymuno ag unrhyw un o'r clybiau, heb son am dalu pris aelodaeth 'CymAber' neu 'ChwaraeonAber'. Dwi'n talu £9,000 y flwyddyn - pam na all y taliadau hyn ddod allan o hwn?
- Dwi wedi cynrychioli'r brifysgol yn fy nghamp yng nghynghrair BUCS, sy'n cystadlu ar ddydd Mercher. Mae hyn yn golygu fy mod i fel arfer yn methu'r darlithoedd / tiwtorialau sydd gen i ar ddydd Mercher, sy'n denu'r math anghywir o sylw gan fy narlithwyr a thiwtoriaid. Mewn prifysgolion eraill, ceir pnawniau Mercher yn rhydd am y rheswm hwn, ac ar gyfer amser llesiant cyffredinol. Pam na allwn ni gael rhywbeth tebyg yma?
I gyflwyno'r hyn rydych chi am ei ddweud, cliciwch y ddolen/botwm isod ac ewch ati i gwblhau ein ffurflen fer...
https://www.surveymonkey.co.uk/r/HolirIG