Herio Naomi

Yr wythnos hon, rydyn ni'n gofyn i chi Herio eich Swyddog Lles, Naomi!

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Yr wythnos hon, rydyn ni'n gofyn i chi Herio eich Swyddog Lles, Naomi! Y dasg a osodwyd i Naomi oedd gwario cyn lleied â phosib ar siopa am fwyd yn ystod yr wythnos, a gallwch ddarllen am y canlyniadau yma.

Os gallwch chi gadw o fewn y targed o £24.78 (gyda basged siopa wahanol), neu hyd yn oed ei guro, rydyn ni am gael gwybod, a gallech chi hyd yn oed ennill gwobrau! Ymysg y gwobrau mae Crys-chwys o Siop yr Undeb fel gwobr gyntaf, ac un o'n mygiau 'Dwi'n Caru Aber' enwog yn ail wobr.

Byddwn yn chwilio nid yn unig am y cyllidebu gorau, ond hefyd sut rydych chi wedi cynllunio eich cynhwysion.

Defnyddiwch y dyddiadur hwn i gofnodi beth rydych chi'n ei fwyta a'i yfed bob dydd. Cofiwch, diet gytbwys sydd orau a cheisiwch gael eich 5 y dydd mewn ffrwythau a llysiau.

I gymryd rhan, tagiwch ni mewn llun o'ch siopa (ar facebook neu twitter) gyda'ch derbyneb cyn 31 Mawrth!

Comments