Heddiw, symudwn ymlaen at y cyntaf o ddwy erthygl sy'n edrych ar rai o'r rolau rhan amser i'w hethol yn yr etholiadau sydd ar ddod.
Heddiw, symudwn ymlaen at y cyntaf o ddwy erthygl sy'n edrych ar rai o'r rolau rhan amser i'w hethol yn yr etholiadau sydd ar ddod.
Y rôl gyntaf byddwn ni'n edrych arni yw Cadeirydd yr Undeb, sy'n gyfrifol am weithredu Cyngor yr Undeb. Byddwch yn gweithio gyda swyddogion eraill i hyrwyddo cyfarfodydd Cyngor yr Undeb yn rhagweithiol gan sicrhau bod y trafodaethau'n deg, yn agored a bod pob penderfyniad a wneir yn dryloyw ac yn ddemocrataidd.
Nesaf yw Swyddog yr Iaith Gymraeg, sy'n cynrychioli myfyrwyr Cymraeg eu hiaith ar y campws ac yn sicrhau bod yr iaith Gymraeg wrth galon yr Undeb. Gan weithio gyda swyddogion a mudiadau eraill, byddwch yn ymgyrchu ar faterion sy'n perthyn i'r diwylliant Cymraeg ac yn sicrhau bod barn myfyrwyr Cymraeg eu hiaith yn cael ystyriaeth.
Neu gallech sefyll i fod yn Swyddog yr Amgylchedd a Chynaladwyedd, sy'n cynrychioli myfyrwyr ac yn ymgyrchu ar faterion sy'n perthyn i'r amgylchedd a datblygiad cynaliadwy. Gan weithio gyda swyddogion, mudiadau a myfyrwyr eraill, byddwch yn sicrhau bod yr Undeb a'r Brifysgol yn gwella effaith amgylcheddol eu gwaith.
Yn olaf, efallai heddiw byddech chi am ystyried sefyll i fod yn Swyddog RAG, sy'n cynrychioli myfyrwyr ar faterion sy'n ymwneud â gweithgareddau elusennol. Byddwch yn gweithio gyda'r clybiau a'r cymdeithasau, lle bo hynny'n briodol, i gydlynu gweithgareddau a chynghori'r Undeb ar ffyrdd y gall wella effaith ei waith.
Os ydych chi am sefyll am unrhyw un o'r rolau uchod, ewch i www.umaber.co.uk/etholiadau neu e-bostiwch undeb.etholiadau@aber.ac.uk.