Goleuni ar – Swyddog Diwylliant Cymreig a Llywydd UMCA

Nesaf, byddwn ni'n edrych ar rôl y Swyddog Diwylliant Cymreig a Llywydd UMCA, sy'n sicrhau cynrychiolaeth i ddiwylliant Cymru a'r Gymraeg yn Undeb y Myfyrwyr a'r Brifysgol.

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Nesaf, byddwn ni'n edrych ar rôl y Swyddog Diwylliant Cymreig a Llywydd UMCA, sy'n sicrhau cynrychiolaeth i ddiwylliant Cymru a'r Gymraeg yn Undeb y Myfyrwyr a'r Brifysgol. Byddwch yn cyfarfod yn rheolaidd gydag unigolion allweddol ac adrannau perthnasol y Brifysgol i hyrwyddo anghenion siaradwyr Cymraeg a'r rheiny sy'n dysgu'r iaith.

Mae hyn yn cynnwys cydlynu ystod o ddigwyddiadau, gweithgareddau ac ymgyrchoedd, er mwyn sicrhau bod buddiannau siaradwyr Cymraeg yn cael sylw ac yn cael eu hybu. Mae yna wastad ddigon i'w wneud yn y swydd hon, o drefnu gwersi Cymraeg, ymgyrchu a hyrwyddo'r iaith, i sicrhau bod polisïau dwyieithrwydd yn gyfoes.

Fel Llywydd UMCA, mae disgwyl i chi amddiffyn ac ymgyrchu dros hawliau myfyrwyr Cymraeg eu hiaith a dysgwyr yn y Brifysgol, yn ogystal ag arwain ar lawer o ddigwyddiadau rheolaidd UMCA a gynhelir gydol y flwyddyn, o Wythnos y Glas i Wythnos Nefi Blw.

Os ydych chi am sefyll i fod yn Swyddog Diwylliant Cymreig a Llywydd UMCA, ewch i www.umaber.co.uk/etholiadau neu e-bostiwch undeb.etholiadau@aber.ac.uk.

Cofiwch, dim ond wythnos sydd tan ddiwedd y cyfnod enwebu!

Comments