Goleuni ar – Llesiant

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

I orffen edrych yn fanwl ar rolau'r swyddogion llawn amser, byddwn ni'n canolbwyntio ar y Swyddog Lles, sy'n cynrychioli myfyrwyr ar faterion sy'n ymwneud â llesiant myfyrwyr, gan gynnwys cymorth i fyfyrwyr, lles, cydraddoldeb ac amrywioldeb. 

Mae'r rôl yn ymdrin ag ystod eang o faterion penodol, gan gynnwys llety a chymorth ariannol, yn ogystal ag iechyd meddwl a chorfforol. Byddwch yn datblygu rhwydwaith o gysylltiadau rheolaidd, gan gynnwys y swyddogion rhan amser, cymdeithasau a chysylltiadau allweddol yn y Brifysgol ac yn y gymuned leol.

Gan weithio gyda staff, byddwch yn cydlynu ystod o ddigwyddiadau, gweithgareddau ac ymgyrchoedd a fwriadwyd i sicrhau bod myfyrwyr yn cael cymorth yn ystod eu hastudiaethau, ynghyd â gwella eu llesiant. Mae rhai enghreifftiau o hyn yn cynnwys cadeirio'r Parth Llesiant, cynorthwyo gyda Ffair Dai a Llety'r Undeb, cynrychioli buddiannau myfyrwyr i wahanol grwpiau, o'r Bwrdd Iechyd lleol i'r Cynulliad Cenedlaethol, ac yn bwysicach oll lobïo'r Brifysgol i newid pethau rydych chi'n credu sy'n bwysig i fyfyrwyr.

Yn olaf, byddwch yn cyfarfod yn rheolaidd ag unigolion allweddol, adrannau perthnasol a chymdeithasau cymunedol i hybu datblygiad llesiant myfyrwyr ymhellach.

Os ydych chi am sefyll i fod yn Swyddog Llesiant, ewch i www.umaber.co.uk/etholiadau neu e-bostiwch mmd11@aber.ac.uk.

Comments