Goleuni ar – Datblygu'r Undeb

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Heddiw symudwn ni ymlaen at rolau'r swyddogion llawn amser a'r cyntaf yw'r Swyddog Datblygu'r Undeb, sy'n gweithio gyda thîm y swyddogion llawn-amser drwy adolygu materion allweddol myfyrwyr yn rheolaidd, yn ogystal â sicrhau bod ymgyrchoedd cynrychioli a gwleidyddol yn cydweddu ag anghenion myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Chi fydd prif gynrychiolydd myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, gan eistedd ar wahanol uwch bwyllgorau a chwrdd ag unigolion allweddol yn rheolaidd, er mwyn sicrhau bod perthynas gref rhwng yr Undeb, y Brifysgol a'r gymuned yn ehangach. Rydych chi hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod yr Undeb yn cael ei gynrychioli ar lefel genedlaethol, drwy weithredu fel prif bwynt cyswllt ar gyfer UCM (Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr) ac UCM Cymru.

Hefyd, chi fydd Cadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr a byddwch yn gweithio'n agos gyda Phrif Weithredwr yr Undeb i sicrhau bod amcanion strategol yr Undeb yn cael eu gweithredu, bod polisïau'n cael eu cynnal a bod penderfyniadau'n cael eu gwneud sy'n adlewyrchu gwerthoedd ein haelodau. Yn olaf, chi yw wyneb cyhoeddus Undeb y Myfyrwyr; chi sy'n gyfrifol am gyhoeddi datganiadau i'r wasg, cynnal cyfweliadau ac ymateb i unrhyw gwynion ac adborth gan aelodau. Mae'r rôl yn un heriol a buddiol i chi, ac mae pob diwrnod yn wahanol.

Os ydych chi am sefyll i fod yn Swyddog Datblygu'r Undeb, ewch i www.umaber.co.uk/etholiadau neu e-bostiwch undeb.etholiadau@aber.ac.uk.

 

Comments