Dyma eich swyddogion newydd…

Yr wythnos hon, bydd tîm newydd y swyddogion yn ymgymryd â'u rolau yma yn UMAber, felly dyma gyfle perffaith i gyflwyno pob un ohonyn nhw.

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Yr wythnos hon, bydd tîm newydd y swyddogion yn ymgymryd â'u rolau yma yn UMAber, felly dyma gyfle perffaith i gyflwyno pob un ohonyn nhw.


Bob dydd yr wythnos hon, byddwn ni'n cyflwyno un swyddog.


Dyma grynodeb bach o bwy 'di pwy…


Swyddog Datblygu'r Undeb: Bruce Wight
Mae Bruce yn wreiddiol o Loughborough ac astudiodd ef Fathemateg.
Eleni, bydd Bruce yn canolbwyntio ar wella'r Undeb at y dyfodol a sicrhau bod llais y myfyrwyr yn cael ei glywed.

 

Swyddog Materion Academaidd: Emma Beenham
Daeth Emma, yn wreiddiol o Torquay yn Nyfnaint, yma i astudio Daearyddiaeth Ffisegol.
Mae ei rôl hi'n rhoi sylw penodol i hyrwyddo buddiannau academaidd ein myfyrwyr.

 

Swyddog Diwylliant Cymreig a Llywydd UMCA: Gwion Llwyd Williams
Astudiodd Gwion, o Benygroes ger Caernarfon, Hanes a Hanes Cymru.
Mae'r rôl hon yn canolbwyntio ar hyrwyddo diwylliant Cymru gan roi cyfle i fyfyrwyr Aber ddysgu, siarad a byw'r iaith.

 

Swyddog Cyfleoedd Myfyrwyr: Jessica Williams
Astudiodd Jessica Ddrama, Theatr, Ffilm a Theledu. Mae hi'n dod yn wreiddiol o Gaerffili yn ne Cymru.
Mae ei rôl yn rhoi sylw penodol ar roi i fyfyrwyr Aber y profiad gorau posib a chynnig mwy na dim ond gradd

 

Swyddog Llesiant: Molly-Jean Longden
Astudiodd Molly-Jean Astudiaethau Drama a Theatr ac mae'n wreiddiol o Fanceinion. 
Mae ei rôl hi'n canolbwyntio ar sicrhau bod ein myfyrwyr mor hapus ac iach â phosib.


Pob lwc yn eich rolau newydd!
 

Comments