Heddiw gwnaeth Cyngor y Brifysgol ymrwymiad i neilltuo cyllid craidd ar gyfer ail-agor Pantycelyn erbyn diwedd 2019.
Roeddem wrth ein bodd â chynnig yr Is-ganghellor, ac rydym yn canmol ei gwaith caled mewn bwrw ymlaen â hyn mewn cyfnod o newid yn y Brifysgol.
Edrychwn ymlaen at weithio gyda'r Brifysgol i ail-danio'r diwylliant a chymuned Pantycelyn. Mae hwn yn gyfnod cyffrous dros ben i'n myfyrwyr cyfredol a'n darpar fyfyrwyr, diwylliant Cymru a'r gymuned Gymraeg ei hiaith.
Darllenwch mwy yma.