Dydd Iau 2 Mawrth yw Diwrnod Iechyd Meddwl y Brifysgol, pan fyddwn ni'n cefnogi'r ymgyrch Student Minds.
Dydd Iau 2 Mawrth yw Diwrnod Iechyd Meddwl y Brifysgol, pan fyddwn ni'n cefnogi'r ymgyrch Student Minds. Y thema eleni yw Iechyd Meddwl Actif, felly byddwn ni'n cynnig llwyth o gyfleoedd i ddod yn actif!
- Ymunwch ag un o'n clybiau chwaraeon yn eu sesiynau. Croeso i bawb:
Beth?
|
Ble?
|
Pryd?
|
Triathlon – Sesiwn nofio (bydd hyfforddwr ar gael)
|
Pwll Nofio'r Ganolfan Chwaraeon
|
2.15pm – 3.45pm
|
Criced Dynion
|
Caets Chwaraeon
|
3pm – 5pm
|
Harriers – Digwyddiad Arbennig! Mabolgampau bach gan gynnwys digwyddiadau tîm a gwobrau!
|
Trac Athletau
|
6pm – 7pm
|
Dodgeball (ffordd wych o leddfu straen!)
|
Caets Chwaraeon
|
7pm – 8pm
|
Pêl-fasged Menywod
|
Caets Chwaraeon
|
7pm – 8pm
|
Lacrós (Dynion a Menywod) – croeso i bob gallu!
|
AstroTurf
|
7.30pm – 9.30pm
|
- Cadwch lygad allan am ddosbarthiadau rhad ac am ddim gan Ganolfan Chwaraeon y Brifysgol
- Ymunwch â gweithgareddau difyr ein Cymdeithas Student Minds sy'n digwydd DRWY'R DYDD yn y Picture House yn yr Undeb