Bydd y Cyngor UMAber nesaf ar Ddydd Llun, 30/04/18, o 6yh ym Mhrif Ystafell, Undeb y Myfyrwyr.
Beth yw hwn?
Mae UMAber yn eu cynnal Cyngor y Myfyrwyr i sicrhau bod aelodau'n rhoi eu barn ar ein gweithgareddau, safbwyntiau gwleidyddol a mwy!
Pwy all fynychu?
Mae pob myfyriwr cofrestredig yn aelod awtomatig o Undeb y Myfyrwyr a gallant fynychu a siarad yn ystod y Cyngor.
Mae'r hawl i bleidleisio wedi'i gadw ar gyfer y cynrychiolwyr myfyrwyr etholedig fel a ganlyn:
- Swyddogion Llawn Amser
- Swyddogion Rhan Amser
- Cynrychiolwyr Athrofa
- Cynrychiolwyr Academaidd
- Pwyllgor gwaith UMCA
- 3 Aelod Pwyllgor o bob Clwb Chwaraeon a Chymdeithas i'w cymryd gan y cadeirydd, ysgrifennydd a thrysorydd neu gyfwerth.
Dim ond gyda 50 aelod pleidleisio yn yr ystafell y gall y Cyngor fynd ymlaen.
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau mynediad cyfartal i'n holl fyfyrwyr. Os oes gennych unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud â hygyrchedd, neu os oes angen unrhyw ddogfennau'r Cyngor ar ffurf benodol, rhowch wybod i ni!
Pa iaith fydd yn cael ei siarad?
Yn ystod y Cyngor, cewch ddewis siarad yn Gymraeg neu'n Saesneg!
Bydd cyfieithu ar y pryd o'r Gymraeg i'r Saesneg yn ystod y cyfarfod drwy wasanaeth ffôn gynadledda felly dewch â'ch ffôn.
Bydd y gwasanaeth hwn yn defnyddio rhif 03 na fydd yn costio mwy na galwad ar gyfradd genedlaethol i rif 01 neu 02 a bydd yn cyfri at unrhyw funudau cynhwysol.
Beth sy'n digwydd yn ystod y Cyngor?
· Cewch adroddiad llawn o weithgareddau gan y Swyddog Ddatblygu’r Undeb
· Dadlau a phleidleisio ar gyflwyniadau gan fyfyrwyr eraill i wella Aber. Enw'r rhain yw “Syniadau” ac os cânt eu pasio, byddant yn rhan o'n gwaith am y 3 blynedd nesaf.
Beth sydd i'w dadlau?
Rydym wedi cael 8 syniad gan fyfyrwyr i'w cynnig i'r Cyngor eleni:
Sut mae cael gwybod mwy?
Gweler rhagor o wybodaeth ynglyn â chyfarfodydd fel hwn ar Llywio Aber ar ein gwefan.
Yno, cewch wybod mwy ynglyn â'r myfyrwyr sy'n eich cynrychioli chi mewn cyfarfodydd cyngor, rhannu Syniadau i'w dadlau y tro nesaf, darllen ein polisïau cyfredol a mwy.
Cofiwch fod ein drysau ar agor drwy'r amser ac mae croeso i chi anfon neges atom ni – felly peidiwch â bod ofn cysylltu os oes gennych unrhyw gwestiwn neu os oes angen cymorth!