Caiff UMAber ei redeg gan fyfyrwyr, a Chyngor yr Undeb yw un o'r ffyrdd y gallwch gynnig syniadau a chreu newid!
Caiff UMAber ei redeg gan fyfyrwyr, a Chyngor yr Undeb yw un o'r ffyrdd y gallwch gynnig syniadau a chreu newid!
Gall unrhyw un fynychu'r cyfarfod a chyflwyno syniadau i Gyngor yr Undeb, er bod pleidleisio'n gyfyngedig i gynrychiolwyr etholedig UMAber.
Felly, peidiwch ag oedi! Cyflwynwch eich syniadau nawr drwy fynd i www.umaber.co.uk/newidaber/fysyniadau.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno syniadau yw 12pm ddydd Llun 20 Chwefror, a gallwch wneud newidiadau i syniad a gyflwynwyd hyd at 12pm ddydd Gwener 24 Chwefror.
Cynhelir y cyfarfod ei hun am 6pm nos Lun 27 Chwefror ym Mhrif Ystafell Undeb y Myfyrwyr.
Oes gennych chi ddiddordeb? Oes gennych chi syniad? E-bostiwch crp12@aber.ac.uk os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os ydych chi am gael cymorth.