Cyfarthion y tymor

Ddydd Mercher 18 Ionawr, cyflwynom ni ystafell anwesu cwn gyntaf Aberystwyth!

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Ddydd Mercher 18 Ionawr, cyflwynom ni ystafell anwesu cwn gyntaf Aberystwyth! Profwyd yn wyddonol bod treulio amser gydag anifail anwes yn gallu lleddfu straen, felly ymunom ni ag Alpet Poundies Rescue a ddaeth â deg o'u cwn annwyl am y diwrnod fel bod modd eu hanwesu, cael cwtshys a chwarae â nhw er mwyn trechu straen cyfnod yr arholiadau.

Meddai Naomi Cutler, Swyddog Lles UM Aber a threfnydd y digwyddiad: “Gall arholiadau fod yn gyfnod o straen i fyfyrwyr ac rydyn ni am sicrhau bod ein myfyrwyr mor hapus ac iach â phosib yn ystod eu cyfnod yn Aberystwyth. Rydyn ni'n ddiolchgar iawn bod Alpet Poundies wedi dod am y diwrnod i roi cyfle i'n myfyrwyr chwarae ac anwesu er mwyn anghofio pwysedd yr arholiadau am sbel.”

Daeth bron 700 o fyfyrwyr a staff i'r digwyddiad ar y diwrnod a chasglom ni £900 o roddion at Alpet Poundies – llon-gyfarth-iadau! Rhoddodd Alpet Poundies ddiolch personol i bob un ohonoch chi am eich haelioni, gan ddweud “Does dim syniad gennych chi pa mor werthfawr yw hyn i ni ar hyn o bryd. Gobeithio mwynhaodd y myfyrwyr y cwn a chawson nhw ddigon o amser yn eu cwmni. Un fantais, y cyfan dwi’n clywed y cwn yn ei wneud yw chwyrnu.” Dwedodd Linda White, gweithredwr y ganolfan, fod y fan a gaiff ei ddefnyddio i gludo'r cwn sy'n hollbwysig i'w gwaith achub yr anifeiliaid a chanfod cartref newydd iddynt, wedi torri lawr yn ddiweddar ac maen nhw'n ei chael hi'n anodd canfod yr arian i'w drwsio. Mae eich rhoddion yn golygu bod modd gyrru'r fan unwaith eto! Cawsoch chi gyfle i anwesu cwn a helpu achos teilwng, ai'r diwrnod gorau oedd hwnnw neu be!?

Bu'r diwrnod hefyd yn gyfle i gofio Stefan Osgood a chafwyd rhoddion hael gan Kirsty Parish a'i ffrindiau i dalu am gostau sylfaenol y digwyddiad. Cyn-fyfyrwyr Aberystwyth yw'r rhain i gyd yn ogystal â ffrindiau agos Stefan. Gan fod llesiant meddwl yn rhan bwysig o fywyd yn y brifysgol, roedd Kirsty am roi rhywbeth yn ôl i UMAber er cof am Stefan, a chredwn ni y bu'r digwyddiad hwn yn berffaith addas. Hoffwn ddiolch yn fawr i Kirsty a'i ffrindiau am eu haelioni.

Sicrhewch eich bod chi'n mynd i weld ein tudalen Facebook i weld os tynnodd ein ffotograffydd lun ohonoch, ac os tynnoch chi unrhyw luniau ar y diwrnod, byddai'n braf iawn cael eu gweld – postiwch nhw ar gyfryngau cymdeithasol gyda'r hashnod #CwnUMAber. Sicrhewch eich bod chi'n ein hoffi ni ar Facebook ac yn ein dilyn ar Twitter ac ar Instagram ar @UMAberSU.

Yn olaf ond nid lleiaf, diolch i CHI am wneud i'r diwrnod fod yn llwyddiant mawr. Rydyn ni'n hynod falch y mwynheuoch chi'r digwyddiad ac roedd hi'n braf gweld gwên ar eich wynebau. Cadwch lygad ar agor am ragor o ystafelloedd anwesu cwn yn y dyfodol!

Comments