Nesaf yr wythnos hon yw MIRIAM WILLIAMS a gafodd ei hethol yn Swyddog Materion Cymreig a Llywydd UMCA yn 2014-15 ac ar hyn o bryd hi yw Swyddog Marchnata a Rhaglenni Llenyddiaeth Cymru.
Nesaf yr wythnos hon yw MIRIAM WILLIAMS a gafodd ei hethol yn Swyddog Materion Cymreig a Llywydd UMCA yn 2014-15 ac ar hyn o bryd hi yw Swyddog Marchnata a Rhaglenni Llenyddiaeth Cymru.
Pam dewisoch chi'r rôl honno?
Roedd yn rhywbeth roeddwn i'n teimlo'n frwd amdano, roeddwn i am roi rhywbeth yn ôl i'r gymuned a brwydro dros hawliau myfyrwyr. Hefyd, doeddwn i ddim am adael Aber!!
Beth yw eich hoff atgof o sefyll yr etholiadau ac o’ch cyfnod chi fel Swyddog Llawn Amser?
Cwrdd â fy ymgeiswyr. Dwi'n cofio Will (Atkinson) yn fy helpu i osod fy maner ychydig ar ôl hanner nos ar ôl i'r cyfnod ymgyrchu ddechrau ac anfonodd Grace neges ataf yn dymuno pob lwc i mi yn yr etholiadau. Doeddwn i ddim yn meddwl y bydden ni'n ffrindiau agos yn dilyn ein blwyddyn yn ein swyddi. Dwi'n cofio pa mor dda oedd pawb a sut gwnaeth pawb helpu ei gilydd, p'un a'u bod nhw'n cystadlu yn erbyn ei gilydd neu beidio.
Beth ydych chi wedi’i ddysgu gan sefyll etholiad a bod yn Swyddog Llawn Amser?
Roedd hyder yn beth mawr; fyddwn i byth yn codi ac yn siarad o flaen pobl doeddwn i ddim yn eu hadnabod o'r blaen. Erbyn diwedd fy mlwyddyn yn y rôl, roedd hi'n ail natur i mi.
Pa gyngor sydd gennych chi i unrhyw un sy’n ystyried sefyll yr etholiadau?
Ewch amdani, peidiwch â chael eich darbwyllo rhag y ffaith bod rhywun arall yn sefyll yn eich erbyn a dydych chi ddim yn meddwl gallwch chi ennill. Mae gennych chi gymaint o siawns â nhw. Hefyd, nid ennill mo popeth. Bydd sefyll etholiad yn rhoi cymaint o brofiad i chi ac yn dysgu cymaint o bethau i chi. Bonws fyddai cael eich ethol yn y diwedd.
Pe gallech chi droi’r cloc yn ôl, fuasech chi’n gwneud y cyfan eto? Neu beth fyddech chi’n ei wneud yn wahanol?
Buaswn, mewn chwinciad. Buaswn i'n ceisio meddwl am yr hyn sy'n bwysig a cheisio blaenoriaethu'r pethau hynny. Mae amser yn hedfan a cyn i chi wybod, mae eich blwyddyn wedi dod i ben ac rydych chi'n edrych yn ôl ac yn meddwl, “pam na wnes i hwnna?”.
Pe gallech chi grynhoi eich profiadau mewn pum gair, beth fyddai'r rheiny?
Heriol, gwerth-chweil, emosiynol, balch, ffantastig